Côr Meibion Aberhonddu-Lleisiau'r Bannau
Côr Meibion Aberhonddu-Lleisiau'r Bannau
SKU:SCD2638
Mae Lynnette Thomas wedi bod yn arwain y côr ers 17 mlynedd, a chyn hynny bu’n gyfeilydd am 13 mlynedd. Yn enedigol o Lanymddyfri, mae’n brifathrawes ar Ysgol Pontsenni, ac y mae’n mwynhau’r sialens o ddysgu darnau newydd i’r côr afieithus hwn.
Gŵr ifanc lleol yw’r pianydd Christopher Langworthy sy’n bwriadu astudio cerddoriaeth yn y Brifysgol a gwneud gyrfa iddo’i hun yn y maes; mae hefyd yn chwarae’r baswˆn gyda nifer o grwpiau lleol.
Daw Lynne Bryer o Langadog yn wreiddiol, a bu’n astudio’r llais yng Ngholeg Cerdd Cymru yng Nghaerdydd gyda Jeanette Massocchi, lle’r enillodd wobr Kodaly. Mae’n byw yn Llangors, ac yn Brif Swyddog Ieuenctid gyda Chyngor Powys, yn ogystal â chantores led-broffesiynol. Bu Michael Hodgson yn organydd mewn sawl eglwys cyn cael ei ordeinio fel gweinidog ei hun yn 1987, ac mae’n aelod brwd o’r côr yn ogystal â gweithredu fel cyfeilydd pan fydd angen.
- Molwch Yr Arglwydd
- Amazing Grace
- African Trilogy
- Danny Boy
- Ai Am Fod Haul Yn Machlud
- Buddugoliaeth
- I Can’t Help Falling In Love
- Y Darlun
- An American Trilogy
- Pan Fo’r Nos Yn Hi
- One
- Hafan Gobaith
- Bring Him Home
- Cadwyn O Emyn-Donau Cymreig
- Adiemus
- Ysbryd Y Nos
- Hen Wlad Fy Nhadau