Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

Lleisiau Bechgyn Cymru

Lleisiau Bechgyn Cymru

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £7.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2697

Casgliad o ganeuon poblogaidd gan 11 o leisiau trebl mwyaf adnabyddus Cymru.

Gan gychwyn gyda lleisiau Emyr Wyn a Philip Watkins, drwy oes aur Aled Jones hyd at y cyfnod presennol, hwn fydd y casgliad cyntaf erioed o gantorion trebl ar un CD.

Medd llefarydd ar ran Sain: “Mae’r casgliad hwn yn dystiolaeth ddisglair o dalentau Cymru yn y maes arbennig yma”. Mae’n anodd diffinio apêl oesol llais bachgen ifanc, ond ar ei orau mae iddo ryw burdeb arbennig sy’n gallu ein codi i’r entrychion. Ar y casgliad hwn – y cyntaf o’i fath – cawn glywed y goreuon o blith lleisiau bechgyn Cymru dros gyfnod o hanner canrif. Roedd Emyr Wyn a Philip Watkins ymhlith y ddau gyntaf i wneud recordiau yng Nghymru, ac y mae’r traddodiad a arloeswyd ganddyn nhw yn parhau gyda thalentau disglair fel Rhys Meilyr a Steffan Rhys Hughes yn ail ddegawd y ganrif bresennol.

Yn Lloegr, cysylltir llais y glaslanc â chanu eglwysig, ac er fod hynny yn rhannol wir yma yng Nghymru hefyd, mae’n debyg mai’r Eisteddfod sy’n rhoi llwyfan ac amlygrwydd i’r lleisiau ifanc yma yn amlach na pheidio. Ac fel y tystia’r enwocaf ohonynt, Aled Jones, yr Eisteddfod a roddodd iddynt y cyfle i ddatblygu eu doniau a magu hyder gerbron cynulleidfaoedd mawr a bach, a gosod sylfaen ar gyfer gyrfa ehangach. Gan mai cyfnod cymharol fyr, o reidrwydd, sydd i’r lleisiau hyn, mae galw cyson wedi bod i gael cofnod ohonynt ar un casgliad digidol fel hyn, ac y mae’n bleser gan Sain i ymateb i’r galw hwnnw, a dwyn y cyfoeth hwn o leisiau i sylw’r byd. 

  1. Ave Maria - ALED JONES
  2. Oh Holy Night - ALED JONES
  3. F'Annwyl Wyt Ti - PHILIP WATKINS
  4. Dod ar fy Mhen - PHILIP WATKINS
  5. The Christ Child - OLIVER SAMMONS
  6. Ave Maria - OLIVER SAMMONS
  7. Bugeilio'r Gwenith Gwyn - HUW EDWARD JONES
  8. Tawel Nos - DYLAN EURIG
  9. On Wings of Song - CARWYN LLŶR
  10. Morning Has Broken - CARWYN LLŶR
  11. Pwy yw Sylfia? - RICHARD DAVIES
  12. Huna, Huna - RICHARD DAVIES
  13. Panis Angelicus - DARREN ROBERTS
  14. Pie Iesu - DARREN ROBERTS
  15. Mi Glywaf Dyner Lais - EMYR WYN
  16. Y Darlun - EMYR WYN
  17. The Lord is My Shepherd - STEFFAN RHYS HUGHES
  18. I Ti Dymunwn Fyw - STEFFAN RHYS HUGHES
  19. Iesu Yw - RHYS MEILYR
  20. Rho Fory i Minnau - RHYS MEILYR
Year
Gweld y manylion llawn