Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Rhys Meirion a Robat Arwyn

Llefarodd yr Haul

Llefarodd yr Haul

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

Mae’r recordiad hwn yn dwyn ynghyd ddau o ffigyrau mawr cerddoriaeth gyfoes Cymru – Robat Arwyn y cyfansoddwr a Rhys Meirion y canwr. Ond nid yw pethau mor syml â hynny chwaith! Clywir yma hefyd Robat Arwyn y canwr, a Robat Arwyn y cyfeilydd. Ac y mae teulu Rhys yn treiddio drwy’r cyfan – yn addewid ifanc Elan ac Erin, ac yn yr hiraeth o golli ei chwaer Elen. Cyfansoddodd Robat y delyneg hyfryd “Llefarodd yr haul” i eiriau Robin Llwyd ab Owain, yn dilyn ei brofiad yng ngwasanaeth coffa Elen Meirion, a’r gân honno sy’n agor y casgliad arbennig yma:

“Pan ymunodd Rhys â Chôr Rhuthun flynyddoedd yn ôl, gwyddwn yn syth fod yma lais go arbennig. Byth ers hynny mae’r tenor telynegol wedi cyffwrdd calonnau gyda’i lais melfed a’i bersonoliaeth hynaws. Anrhydedd o’r mwya yw cael Rhys i gyflwyno casgliad cyfan o’m caneuon, a chael ysgrifennu Llefarodd yr Haul ar ei gyfer, er cof am ei chwaer, Elen Meirion. Ond o sylweddoli pa mor hyfryd a sensitif yw’r geiriau, â pha mor uchel oedd disgwyliadau Rhys am goffâd cerddorol teilwng i’w chwaer, roedd y profiad o'i hysgrifennu yn un digon anodd. ‘Rôl sawl cynnig, fy mraint bellach yw cael trosglwyddo’r gân i ofal Rhys.” (- Robat Arwyn)

Ac fel pe na bai talentau y ddau gyfaill Rhys a Robat yn ddigon, clywir yma am y tro cyntaf ar record gôr ifanc arall a grewyd gan Leah Owen: Parti Dyffryn Clwyd. Mae’r cyfan yn cyfuno i greu clasur o gasgliad.

 

  1. Llefarodd yr haul
  2. Pregeth y mynydd*
  3. Pie Jesu
  4. Paid byth a’m gadael i**
  5. Anfonaf angel
  6. Nina nana
  7. Agnus dei
  8. Dim lle
  9. Dilyn fi
  10. llefara addfwyn Iesu*
  11. Emyn Priodas
  12. Pedair Oed

(*& Robat Arwyn / ** &Elan Meirion Jones)

Gweld y manylion llawn