Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Gwibdaith Hen Frân

Llechan Wlyb

Llechan Wlyb

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £7.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:RASALCD032

Bydd Cymry benbaladr yn llawenhau wrth i drydydd albwm y band Gwibdaith Hen Frân gyrraedd y siopau - mae ‘Llechan Wlyb’ yn gasgliad llawn hiwmor a direidi sy’n adrodd hynt a helynt cymeriadau unigryw cefn gwlad Cymru a straeon personol a doniol y pedwar aelod sy’n creu Gwibdaith Hen Frân. Gan gadw’n dryw i’w steil unigryw clywir llinellau bachog fel ‘Bochau tin fel dau ŵy Pasg’ a ‘Ping a pong a pipi’ i gyfeiliant sain acwstig adnabyddus y band sy’n plethu arddulliau cerddoriaeth sipsi, bluegrass, jas a gwerin.

Dyma’r tro cyntaf i Gwibdaith gynhyrchu recordiad ar ei liwt eu hunain ac yn ôl Paul Thomas, gitarydd ac un o brif leiswyr y grŵp; ‘Mae bob aelod wedi dod a rhywbeth gwahanol i’r albwm gan gyfrannu’n reit gyfartal i’r cyfansoddi a’r cynhyrchu. Gyda’r albwm gynta’ roedd y caneuon i gyd yn barod cyn mynd i’r stiwdio a gyda’r ail roedd lot o ganeuon ar ôl. Y tro yma, ‘da ni ‘di bod mor brysur gyda gigs, ni ‘di dod fewn efo syniadau a hanner caneuon a ‘neud lot o’r gwaith yn y stiwdio.’

Un o gryfderau amlwg Gwibdaith Hen Frân yw eu gallu i gyfansoddi caneuon digri a bachog sy’n adrodd straeon doniol a phersonol; ‘Ar Llechan Wlyb ma ‘na gân am eistedd yng nghefn fan am oriau ar y ffordd i Wlad y Basg a bochau fy nhin yn mynd yn ddideimlad oherwydd y daith hir. Mae ‘na son am Anti Ffani ac Yncl Wili yn chwarae’n hapus braf a hanes un o’r hogiau yn cyrraedd y Ring yn chwil ac yn trio ei orau i ‘chattio’ rhyw hogan Saesneg i fyny drwy ddefnyddio un o’r ‘chatup lines’ gorau yn y byd!’, esbonia Paul.

Does dim amheuaeth bod y perfformio cyson dros y blynyddoedd wedi dylanwadu ar gerddoriaeth a hyder y band wrth recordio; ‘Ma’r holl gigs wedi neud ni’n dynnach wrth berfformio a ‘da ni wedi dysgu lot am sut i fod mewn stiwdio a sut mae cân fod i ddatblygu.’ Ac mae’r elfennau yma i’w clywed yn glir ar Llechan Wlyb wrth i’r band wahodd cyfraniadau gan offerynwyr gwadd ar ambell i drac, daw cyfraniadau ar y delyn a’r ffidil gan Llinos ac Angharad o’r grŵp gwerin Calan, Edwin Humphreys ar y clarinét a’r sacsoffon, Euron ‘Jos’ Jones ar gitâr sleid a’r gitâr pedal dur, Alex Moller ar y bohran, Justin Davies ar yr harmonica a’r canwr-gyfansoddwr Geraint Lovgreen ar yr acordion.

Yn ôl Gwibdaith, ‘da ni’n hapus iawn gyda Llechan Wlyb mae o’n fwy eclectig na’r ddwy gynta’,’ ac wrth sôn am uchafbwyntiau’r albwm, mae Paul yn cyfeirio at y gân Ping a Pong, sef cân a gyfansoddwyd gan y band i gyd; ‘Ma’r geiriau yn sôn am hanes penwsnosau o hwyl ‘da ni wedi cael yn y gorffennol a ma’r tempo a’r cymysgedd o offerynnau sy’n gyfeiliant yn cadw’r gân yn hwyliog ac yn ddiddorol. Ma’n dechre efo bang ac yn dal ati sy’n neud i chdi dapio dy droed o’r dechrau i’r diwedd… hit yn fama gobeithio!’ Os yw playlist Radio Cymru yn arwydd o hit, yna mae gobeithio’n Paul a gweddill y band wedi eu gwireddu eisoes gan fo’r geiriau bachog ‘Ping a pong a pipi’ i’w clywed yn ddyddiol ar donfeddi’r gorsafoedd cenedlaethol ers ychydig wsnos bellach!

 

  1. Untro
  2. Gwena
  3. Dau Wy Pasg
  4. Fyny ac i Lawr
  5. Ble aeth y Miwsig?
  6. Meddwl Ddaru Wil
  7. Agor fy Nghalon
  8. Amsterdam
  9. Nionod
  10. Mwsh Mwsh
  11. Anti Ffani, Yncl Wili
  12. Ping a Pong
  13. Mr Mason
  14. Ffordd y Plas
  15. Tanygrisiau
  16. Awtro
Year
Gweld y manylion llawn