Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Calan

Jonah

Jonah

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

Mae Calan yn lansio eu hail albwm, Jonah, ar label Sain yn dilyn canmol enfawr i’r albwm gyntaf ac yn bwriadu gwneud taith ryngwladol.

 

Eu bwriad yw ceisio rhoi egni newydd i gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, ond ni all Calan wneud hyn eu hunain.

 

Barn feiolinydd y band, Angharad Sian, yw: “Yr unig fodd o newid traddodiad yw bod llawer o fandiau yn cystadlu am y gorau.”

 

“I raddau, does dim un band ifanc arall yng Nghymru sy’n gwneud yr un math o beth. Er ein bod felly’n cael perfformio mewn llawer o gigiau, nid wyf yn credu bod hyn yn iach. Buaswn wrth fy modd os byddai yna fwy o fandiau – sydd wedyn yn creu bach o gystadleuaeth.”

 

Mae’r delynores Alaw Jones, sy’n rhannu’r gwaith gyda’i chwaer Llinos Jones, yn credu y dylai llwyddiant Calan annog cerddorion ifanc eraill. “Pan mae pobl ifanc yn gwrando arnom ni, buaswn yn hoffi iddynt feddwl ‘Dylen ni geisio ffurfio band’,” meddai hi.

 

Mae Calan wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers rhyddhau Bling yn 2008 ac wedi denu cenhedlaeth newydd o ffans i gerddoriaeth draddodiadol Gymreig – yng Nghymru a thu hwnt. Maent wedi cael derbyniad gwresog iawn a llawer o ganmoliaeth gan gynulleidfaoedd yng Ngwlad Belg, yr Eidal, Awstria ac ar draws y Deyrnas Unedig.

 

Ar ôl ymddangos ar brif lwyfannau llawer o ŵyliau, cyrhaeddodd Calan frig llawer pôl ar ôl i gynulleidfaoedd bledleisio’n ddi-ddiwedd iddynt. Ar ôl dychwelyd o ŵyl Womex yn Denmarc, maent wedi derbyn cynigion di-ri gan rhai o brif asiantau Ewrop.

 

Eleni mae gan Calan hyd yn oed mwy o gigiau a pherfformiadau yn Ewrop, ac hefyd yn rhan o ŵyl Fairport Convention’s Cropredy lle byddent yn perfformio o flaen cynulleidfa o 25,000, yn ogystal â pherfformio mewn nifer o gigiau teledu a radio.

 

Mae llwyddiant y band yn tarddu o lwyddiant eu halbwm gyntaf, Bling, a atynnodd adolygiadau gwych gan y wasg, yn ogystal â derbyn canmoliaeth gan ffynhonnell eithaf annisgwyl. Barn The Daily Mirror oedd bod y gerddoriaeth ar Bling yn “played with the grace, daring and sheer joy”. Dywedodd The Belfast Telegraph hefyd bod “folk just got a kick up the Noughties”.

 

Ar Jonah, cyd-weithiodd Calan gyda’r cynhyrchydd Martin Allcock, dewin aml-offerynnol sydd erbyn hyn yn byw ger Harlech yng Ngwynedd.

 

Mae naws fwy cyfoes ar Jonah, yn adeiladu ar ambell i drac oedd ar Bling gan ddefnyddio bâs a drymiau, a hyd yn oed vocoder.

 

“Dadleuol?” meddai’r gantores a’r chwaraeydd acordian Bethan Rhiannon. “Tybiaf bod rhai yn dweud hynny. Ond mae cerddoriaeth Gymreig wastad wedi bod yn gynhwysol ac yn barod i ddatblygu. Rydym ni’n fel band yn cyflwyno cerddoriaeth Gymreig i’r ail ddegawd yn yr unfed ganrif ar hugain gyda chymysgedd o alawon traddodiadol a set o rai gwreiddiol. Mae yna archif anferth o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig ar gael, ond does dim rheswm i beidio ychwanegu ato, i’w ddatblygu, a’i adnewyddu.”

 

“Dyna beth rydym ni’n ei wneud,” meddai Patrick Rimes sy’n chwarae’r ffidil, ‘bagpipes’, pibgorn, pîb a’r trombone. “Dim cenhadon yda’ ni;  ‘da ni’n gerddorion ac yn ddiddanwyr, ac os lwyddwn ni fod yn gerddorol ac i ddiddanu’n hunain, yna gallwn ni fynd a cynulleidfaoedd gyda ni. Mae wedi gweithio hyd yn hyn.”

 

Ar y daith gyda Calan bydd 2 aelod newydd – Sam Humphries fydd yn ymuno ar y gitâr ac yn cymryd lle Chris ab Alun, yn ogystal â Alex Moller a fydd yn ychwanegu offerynnau taro i gerddoriaeth y band.

 

  1. Slip Jigs (Cadw Twmpath/Hoffedd Ap Hywel/Mympwy Llwyd)
  2. Picnic Pickwick (Pibddawns Pickwick Hornpipe/Pibddawns Ap Siôn)
  3. Jonah
  4. Dawns Y Pelau (Dawns Y Pelau/Welsh Processional Morris)
  5. Y Gwydr Glas
  6. New Set (Erddigan Y Pibydd Coch/Mynydd Yr Heliwr/A Change Of Plan)
  7. Cân Y Dyn Doeth
  8. Swansea Hosepipe Set (Cainc Ifan Ddall/Swansea Hornpipe/Mr.Grumpy/Lord Byron/Y Bregeth)
  9. Anybody Else But You
  10. The Dancing Stag (Rachel Dafydd Ifan/ Gwenny/Pibddawns Heol Y Felin)
  11. Paid  Deud
  12. Nyth Y Gog
  13. Swansea Hosepipe Set (Cainc Ifan Ddall/Swansea Hornpipe/Mr.Grumpy/Lord Byron/Y Bregeth)
  14. The Dancing Stag (Rachel Dafydd Ifan/Gwenny/Pibddawns Heol Y Felin)
Gweld y manylion llawn