John Owen-Jones
John Owen-Jones
Mae’r CD hefyd yn cynnwys ymddangosiadau gan rai o oreuon Cymru – Bryn Terfel, Michael Ball, y delynores Catrin Finch ac enillwyr y gyfres deledu BBC Last Choir Standing, Only Men Aloud.
Ar ôl perfformio led led y byd, daw John i Gaerdydd gogyfer a cychwyn taith benblwydd sioe Boublil and Schönberg, Les Misérables, yn 25 oed. Mae’r sioe, sy’n cael ei adnabod fel “Sioe Gerdd Mwyaf Poblogaidd y Byd”, wedi ei seilio ar nofel epig Ffraneg Victor Hugo ac mae’r perfformiadau yn dechrau yng Nghaerdydd ar 11eg o Ragfyr. Dychwel John i ran heriol Jean Valjean ar ôl perfformio i filiynau o ffans yn ystod ei amser yn y sioe yn y DU ac ar Broadway.
Wedi ei eni a’i fagu ym Mhorth Tywyn (Burry Port), de Cymru, dywedodd John Owen-Jones “Rwy’n falch iawn i lansio fy CD newydd yng Nghaerdydd. Ar ôl treulio llawer o amser bant o Gymru ar lwyfannau Broadway a’r West End, mae’n hyfryd dod nol adref eto. Mae fy CD cyfan cyntaf, sydd wedi ei ryddhau ar label recordio Sain, yn gasgliad o fy hoff ganeuon o fyd y theatr cerdd. Tra bod y CD yn cynnwys traciau poblogaidd theatr cerdd megis Bring Him Home o ‘Les Misérables’ a Music of the Night o ‘The Phantom of the Opera’, mae hefyd yn cynnwys caneuon theatr cerdd llai adnabyddus ond yr un mor wych. Rwyf hefyd wedi cynnwys fy fersiwn i o’r clasur Myfanwy gan Joseph Parry – ffefryn fy mam! Beth sy’n fwyaf cyffrous yw’r gwesteion sydd yn ymddangos ar y CD. Mae cael Catrin Finch yn chwarae’r delyn ar drefniant newydd Bring Him Home a Only Men Aloud yn fy nghefnogi ar Anthem o ‘Chess’ yn bleser pur ac rwy’n falch iawn o gael gwmni Bryn a Michael yn canu gyda fi ar glasur prydferth Sondheim Pretty Lady. Alla i ddim aros i bobl ei chlywed!”
- Kiss of the Spiderwoman
- Music of the Night
- Pretty Lady (Featuring Michael Ball & Bryn Terfel)
- I'd Rather be Sailing
- Proud Lady
- Someone to Fall Back On
- New Words
- Tell My Father
- Bring Him Home (Featuring Catrin Finch)
- Anthem (Featuring Only Men Aloud)
- Myfanwy (Bonus Track)