In Verita
In Verita
SKU:SCD2812
Mae’n anodd credu bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i mi droedio ar lwyfan Glyndebourne i ganu Edmondo yn Mannon Lescaut gan Puccini ar y 10fed o Awst 1999. Fy ngorchwyl gyntaf un fel canwr proffesiynol. Mae’r Albwm yma, mewn ffordd, yn dathlu’r garreg filltir honno, ac yn gofnod o’r llais ar y pryd hwn yn fy ngyrfa drwy ddehongliadau o’r caneuon rwyf wedi bod yn eu canu mewn cyngherddau ar hyd y blynyddoedd, ond ddim wedi mynd ati i’w recordio hyd yma.
Ar fy Albwm gyntaf gyda Sain yn ôl yn 2001 fe dderbyniais, gyda gostyngeiddrwydd, y ganmoliaeth hon gan Gyfarwyddwr Cerdd Opera Genedlaethol Lloegr ar y pryd Paul Daniel CBE
“It is rare enough to find a true tenor voice, but even scarcer is the singer who can use that instrument to communicate directly from his heart.”
Rwyf wedi ceisio bod yn driw i’r geiriau caredig yma ar hyd y blynyddoedd, ac rwyf yn mawr obeithio bod hyn yn dod drosodd yn y perfformiadau ar yr albwm hwn.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi cael profiadau arbennig iawn o gael canu fel unawdydd yn rhai o adeiladau mwyaf eiconig y byd cerddorol. Llefydd fel Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Neuadd Albert yn Llundain, Ty Opera Sydney, Neuadd Carneige yn Efrog Newydd a llawer mwy. Ond yr un mor bwysig i mi yw cael canu mewn neuaddau bach, a chapeli ar hyd a lled Cymru, gan dderbyn y croeso cynhesaf Cymreig hwnnw na sydd mo’i debyg yn y byd.
Mae’n bwrpasol, ac yn wir, yn hollol ddelfrydol, fod y Cerddor eithriadol amryddawn, Brian Hughes, yn cyfeilio i mi ar yr albwm yma. Yn wir, deuawdau sydd yma rhyngom yn hytrach nag unawdau a chyfeiliant. Rwyf wedi bod yn ffodus eithriadol o gael athrawon a hyfforddwyr da ar hyd y blynyddoedd, ac rwyf yn hynod o ddyledus i bobl fel David Pollard, Gerald Martin Moore, Iris Dell’ Acqua, Phillip Thomas, Antony Legge, Mark Shanahan a mwy. Ond Brian Hughes sydd wedi bod yn gyson ar hyd y daith, ac rwyf yn ei deimlo’n fraint o’r mwya’ o’i gael fel athro, mentor ac fel ffrind i gyd-berfformio a mi yma.
Diolch i chi am brynu’r albwm, a gobeithio y gwnewch chi fwynhau gwrando ar sut wyf, mewn gwirionedd (In Verità), fwyaf hapus – yn canu!
Fe hoffwn gyflwyno’r casgliad hwn i fy nhad Gwilym Meirion, i fy ngwraig Nia, fy mhlant Osian, Elan ac Erin, ac er cof am fy mam Catherine Jones a fy chwaer Elen Meirion, i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a’u hanogaeth ac am iddynt fod yn ganolbwynt fy ysbrydoliaeth ym mhopeth rwyf yn ei wneud.
Rhys Meirion
Mehefin 2019
Pleser o’r mwyaf oedd cydweithio gyda Rhys ar y CD hwn; CD sy’n dathlu ugain mlynedd fel unawdydd proffesiynol. Yn y cyfnod hwn mae Rhys wedi datblygu i fod yn gymeriad hoffus a phoblogaidd ar deledu cenedlaethol fel cyflwynydd rhaglenni o naws cerddorol. Ond Rhys Meirion y tenor sydd yma, ac mae ei rinweddau cynhenid yn amlwg yn y caneuon; llais cynnes apelgar, brawddegu synhwyrus gorffenedig, a’r ddawn heb ei ail i anwesu geiriau.
Pymtheg cân oedd i fod, ond pedair awr ar hugain cyn recordio daethom o hyd i ‘Gras Calfaria’ gan E.T. Davies , a rhaid oedd ei chynnwys ar y CD. Mae dipyn o bopeth yma; hiraeth, emynau, cenedlaetholdeb, tynerwch, dipyn o flas y Maffia, a thango o’r Ariannin.
Mwynhewch y cwbl oll!
Brian Hughes
Mehefin/June 2019
- Parla Piu Piano (Speak Softly Love: The Godfather)
- Cilfan Y Coed
- If I Can Help Somebody
- El Dia Que Me Quieras (The Day That You Love Me)
- Dein Ist Mein Ganzes Herz (You Are My Heart’s Delight: The Land Of Smiles)
- Gras Calfaria (Blessed Calvary)
- I’ll Walk Beside You
- Musica Prohibita
- Elen Fwyn
- Annabelle Lee
- Gwlad Y Delyn
- Hiraeth
- Pa Le Mae’r Amen?
- Cof Am Y Cyfiawn Iesu
- Tell My Father