In Luna
In Luna
SKU:Gwymon Finyl018
Un noson, tra roedd y Delyn Gywrain Gymreig yn swatio yn ei gwely, yn breuddwydio am ddim ond cerdd dant, denwyd hi allan i gyffro’r nos i gwrdd â Americana, Canu Gwerin a’r Blues. Pwy heriodd y Delyn fach i ysgwyd llaw gyda’r fath griw? Georgia Ruth Williams. A’r canlyniad? Yr EP hudolus o swynol; ‘In Luna’.
Does dim dwywaith fod y ferch hon wedi denu cryn dipyn o sylw iddi ei hun; sesiwn yn Maida Valle ar gyfer ‘In Music We Trust’ a pherfformio yn Glastonbury, i enwi ond dau o’i llwyddiannau niferus. Llwyddodd ei EP cyntaf ‘Ocean’ i dynnu llu o gefnogwyr, a bydd ‘In Luna’ yn garreg filltir arall yn ei hanes.
Ceir pedair cân ar ‘In Luna’, a hwythau’n ymdrin â phob agwedd gymhleth o ‘golled’; boed o safbwynt personol neu gymeriadau ffuglennol. Mae’r ing yn llais bendigaid Georgia a hiraeth y delyn yn plethu gydag offerynnau megis yr organau Rhodes a’r Vibes i gyfleu holl emosiwn y thema. Mae’n sain cywrain, cynnes, di-amser.
Naws 'Astral Weeks' gan Van Morrisson, ' Moelyci' gan Steve Eaves a 'Once I Was' gan Tim Buckley oedd prif ddylanwad Georgia ar gyfer y caneuon hyn ond daw hithau a’i stamp benywaidd i gwrdd â hwy oll.
Stori gyfarwydd bellach yw clywed am allu’r cyfarwyddwr David Wrench, ac mae ei waith gofalus, a thamaid o lonyddwch stiwdio Bryn Derwen wedi treiddio i galon yr EP yma.
Gwell rhoi’r Delyn fach yn ôl yn ei gwely i adennill ei nerth cyn prysurdeb y flwyddyn newydd; bydd ‘In Luna’ yn denu dim ond llwyddiant, ac addewid am berfformiadau byw bendigedig dirifedi.
1. Through your hands
2. Lines
3. Bones
4. Anna