Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Meic Stevens

Icarws / Icarus

Icarws / Icarus

Pris rheolaidd £5.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £5.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2516

Cyflwyniad i'r albym gan Meic Stevens : Hotel de la france, Dournenez. Mehefin 2007

Shwmae bawb? I ddechre, o'n i eisiau gneud rhywbeth gyda'r opera roc wnes i sgwennu gyda'r diweddar Rhydwen Williams ar fywyd Dic Penderyn, fel cael rhywun i gynhyrchu perfformiad newydd i'r teledu neu'r llwyfan, ond doedd dim llawer o ddiddordeb gan neb. Gofynnodd Dafydd Roberts yn lle hynny imi recordio CD newydd i SAIN.

Doedd dim llawer o ganeuon 'da fi, so es i mewn i'r 'archive', hynny yw, hen note books a darnau o bapur o'wn i wedi cadw o gwmpas y lle dros y blynyddoedd. Penderfynais recordio cwpwl o ganeuon oedd pobl eraill wedi canu a recordio, nes bod yn y diwedd ddigon i wneud CD. Yn wir, erbyn pen y daith, roedd pymtheg o ganeuon, er nag y'n nhw gyda ar y ddisg hon.

Oedd hefyd chwant arna'i ddangos ar record werth cerddorol y band dwi wedi bod yn chwarae gyda nhw ers bwrw am ddeng mlynedd; mae'n siwr eich bod yn ei nabod nhw erbyn hyn! Ymunodd Bill Fleming o Jacksonville, Florida ar y pedal steel guitar. Buodd e'n myfyrio yn y Brifysgol yn Aber. Hefyd daeth fy llysfab Marcel Batin i chwarae dipyn o gitar drydan. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r foneddiges Heather Jones a Lleuwen Steffan, merch Steve Eaves, sy'n canu gyda fi ar sawl un o'r caneuon hyn. Fi sgwennodd y caneuon i gyd, a ma Geraint Jarman wedi helpu gyda cyfieithu rhai o'r Saesneg gwreiddiol... dyna fe te, dwi'n meddwl... mae'n amser agor botel arall.

Hwyl fawr,

Meic 

  1. Adenydd Icarus
  2. Merch yn y canol
  3. Canu cân o dristwch
  4. Digon o le
  5. Oes rhywun yna
  6. Canu gwlad
  7. Ann Llwyd
  8. Gwenllian
  9. Caru fi ddim mwy
  10. Troi y clychau
  11. Georgie
Gweld y manylion llawn