Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Robin Huw Bowen

Iaith Enaid

Iaith Enaid

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2723

Meistr y Delyn Deires yn cyhoeddi albym newydd sbon – Iaith Enaid – cerddoriaeth werin Gymreig ar y delyn deires

Ers 1983, mae Robin Huw Bowen wedi cyflwyno’r Delyn Deires Gymreig a’i cherddoriaeth i filoedd led-led y byd. Fel yr unig delynor Cymreig proffesiynol llawn-amser sy’n arbenigo ar y Deires, mae ei ddylanwad ar y byd Gwerin ac ar hanes y Delyn yn un eang a phwysig. Yn ddiau, fe saif ymysg y ffigurau pwysicaf i godi o draddodiad Gwerin Cymru. Ac felly mae’n bleser gan gwmni Recordiau Sain gyhoeddi albym newydd sbon gan Robin, Iaith Enaid, ei bedwaredd recordiad i’r cwmni.

‘Peidio â dysgu’r newydd ac anghofio’r hen‘ meddai Nansi Richards, Telynores Maldwyn nol yn 1965, ac mae Robin Huw Bowen yn dilyn ei chyngor doeth ar ei albwm newydd ‘Iaith Enaid’. Mae’r teitl ‘Iaith Enaid’ yn dod o’r hen ddywediad ‘Iaith enaid ar ei thannau’, sef arwyddair y rhai fu’n gwarchod a hybu’r delyn deires yng Nghymru dros y canrifoedd.

Does neb yn gwneud mwy dros warchod traddodiad y delyn deires heddiw na Robin, ac ar yr albwm newydd ceir gymysgedd o’r hen a’r newydd. Mae rhai o’r alawon (Helfa De Penfro a Walts yr Heulwen) wedi eu cyfansoddi gan Robin ei hun, ac wedi eu hysbrydoli gan ei deithiau di-ri dramor, neu drwy ei gysylltiad gyda’r Glerorfa. Mae eraill yn drefniannau arbennig i’r delyn deires gan Robin o alawon traddodiadol Cymreig. Mae gan Robin hefyd ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth draddodiadol y sipsi Gymreig, ac mae’r set Pibddawnsiau Sipsi Newydd yn enghraifft berffaith o ddull unigryw’r telynorion y teulu Roberts a theulu Wood.
Er fod Robin yn crwydro’r byd yn gyson fel llysgenad y delyn ndeires, mae dychwelyd i Gymru wastad yn bleser…’Byddaf wrth fy modd mynd ar daith efo’r delyn, ond yn aml iawn ar ôl nifer o wythnosau i ffwrdd, y rhan orau yw troi fy nghar tua’r gorllewin unwaith eto, ac wrth gyrraedd Eisteddfa Gurig yn arbennig, mae i lawr yr allt ’rholl ffordd … i fy nghartre, dyna beth ydi ‘bodlondeb’. A dyna enw’r alaw sy’n cloi’r casgliad arbennig hwn o alawon i’r delyn deires.

  1.  Helfa De Penfro (The South Pembrokeshire Hunt)
  2.  Caniad y Clych ym Morgannwg (The Bells of Glamorgan)
  3.  Ymadawiad y Brenin (The King's Departure)
  4.  Y Pural Fesur (The Perfect Measure)
  5.  Pibddawnsiau Sipsi Newydd (New Gypsy Hornpipes)
  6.  Dwy Dôn Hardd (Two Lovely Tunes)
  7.  Y Ferch o'r Sgêr (The Maid of Sker)
  8.  Y Fwyalchen (The Blackbird)
  9.  Telynor ar y Traeth (The Bard on the Beach)
  10.  Dychweliad y Milwr (The Soldier's Return)
  11.  Walts yr Heulwen (The Sunshine Waltz)
  12.  Bodlondeb (Contentment)
Year
Gweld y manylion llawn