Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Paul Robeson

Hwn yw fy Mrawd

Hwn yw fy Mrawd

Pris rheolaidd £17.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £17.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:CS097

Paul Robeson - Arwr i Gymru, arwr i'r Byd

Holl ganeuon cyngerdd agoriadol Eisteddfod Caerdydd, 2018 gan Robat Arwyn a Mererid Hopwood.

Caneuon cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2018, sy'n darlunio bywywd yr actor a'r canwr, Paul Robeson, a'i gysylltiad cryf â Chymru.

Comisiynwyd Hwn yw fy Mrawd gan Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a rhoddwyd y perfformiadau cyntaf gan Syr Bryn Terfel, Steffan Cennydd, Matthew Gough, Elain Llwyd, Elin Llwyd, Mared Williams, John Ieuan JOnes a Steffan Prys Roberts, ynghyd â Chôrdydd dan arweiniad Huw Foulkes, Côr Ieuenctid yr Eisteddfod dan arweiniad Delyth Medi, gan gynnwys disgyblion Ysgol Gynradd Parc Ninian, Côr Meibion Treorci dan arweiniad Jeffrey Howard a Black Voices. Betsan Llwyd oedd yn cyfarwyddo, a Rhys Taylor oedd trefnydd y gerddoriaeth.

17 o ganeuon amrywiol, addas ar gyfer unawdwyr a chorau -

1. Ansoddeiriau

2. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun

3. Afon ei galon

4. Yr anadl olaf

5. Gwisg fi'n dy gariad

6. Y Sgarmes

7. Achos gymhleth

8. Cân cydwybod

9. Lli'r Iorddonen

10. Ar hyd y nos

11. Codi o'r cysgodion

12. Wedi dwlu

13. Y Delyn aur

14. Alaw werin y byd

15. Euog

16. Y Pwyllgor, yr is-bwyllgorau a'r iis-is-bwyllgorau

17. Hwn yw fy Mrawd

Gweld y manylion llawn