Hon
Hon
SKU:SCD2668
Gwelwyd cyfle gwych i greu casgliad o ganeuon dan y teitl ‘Hon’ gan bod cymaint o ferched yng Nghymru erbyn hyn mor amlwg yn y sîn roc/pop/gwerin Cymraeg. Yn wir, efallai mai cyfraniad y merched yw prif nodwedd canu Cymraeg cyfoes, a braf yw gweld mwy a mwy ohonyn nhw yn cyfansoddi caneuon eu hunain ac yn cael ymateb mor frwd gan y cyhoedd. Yn ogystal â chynnwys deunydd diweddar gan rai fel Georgia Ruth, Lleuwen Steffan a Fflur Dafydd, rydym hefyd wedi cynnwys clasuron gan Siân James, Caryl Parry Jones, Linda Griffiths a Heather Jones, a chyflwyno hefyd gantoresau llai adnabyddus sy’n sicr o wneud eu marc yn y dyfodol. Ychwanegwch at y rhain dalentau disglair Elin Fflur, Calan, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard, ac fe welwch fod yma gasgliad at ddant pawb!
- LLEUWEN STEFFAN - Bore Sadwrn
- ELIN FFLUR - Tybed Lle Mae Hi Heno
- CALAN - Y Gwydr Glas
- CARYL PARRY JONES - Adre
- GWYNETH GLYN - Angeline
- LOWRI EVANS - Aros am y Trên
- GEMMA MARKHAM - Y Caeau Aur
- SIÂN JAMES - Y Wasgod
- LINDA GRIFFITHS - Gwybod bod 'na 'fory
- FFLUR DAFYDD - Rhoces
- GEORGIA RUTH - Hallt
- MEINIR GWILYM - Haf
- GWENAN GIBBARD - Glan Môr Heli
- LOIS EIFION - Cain
- SARAH LOUISE - Tir Na-Nog
- HEATHER JONES - Mae'r Galon Hon