Home
Home
SKU:GWYMONCD022
Cantores ifanc o Gwm Dulais yw Bronwen. Mae’n perfformio ei chaneuon ei hunan ers rhai blynyddoedd ond daeth i’r amlwg ar y gyfres deledu boblogaidd ‘The Voice UK’.
Mae perfformio a chyfansoddi wedi bod yn rhan o fywyd Bronwen ers yn oedran ifanc. Dechreuodd chwarae’r piano yn 5 oed ac un o’i hatgofio’n cliriaf yn blentyn yw eistedd o flaen y piano am oriau yn chwarae gyda geiriau a nodau – cyfansoddodd ei chân gyntaf yn 10 oed. Dysgodd ei hun i chwarae’r gitâr yn ei harddegau ac mi fentrodd ar lwyfan i berfformio ei chaneuon ei hun am y tro cyntaf yn 15 oed gan berfformio’n rheolaidd ers hynny.
Yn dilyn ei hymddangosiad ar y gyfres The Voice UK cafodd wahoddiad i ganu’r gân ar gyfer y ffilm ‘Pride’, a enwebwyd ar gyfer gwobrau y Golden Globe ac a enillodd wobr BAFTA. Cyhoeddodd EP, ‘Pure Heart’ mewn cyd-weithrediad â’r cynhyrchydd cydnabyddedig Hugh Padgham, ac yn fwy diweddar mae wedi gweithio gyda John Reynolds ar ddau drac o’i halbym unigol gyntaf. Recordiwyd a chynhyrchwyd gweddill ‘Home’ yn Stiwdio Sain yn Llandwrog gan Robin Llwyd.
- Wide Eyed Love
- Ti A Fi
- Enough
- Home
- Isla Rae
- Gwlad Y Gân
- It's You
- Walking Myself Home
- Suitcase
- Meddwl Amdanaf I
- I'm Only Me Because Of You
- Something To Live For
- Aching For You
- Edrych 'Rôl Fy Hun