Hen Ganeuon Newydd
Hen Ganeuon Newydd
SKU:SCD2850
Ganrif a mwy yn ôl byddai mwyafrif helaeth trigolion yr ardal hon yn uniaith Gymraeg a chanu a barddoni yn weithgarwch ac yn adloniant cymdeithasol mewn byd lle ’roedd pwyslais ar ddod ynghŷd a chadw’r cwlwm hwnnw rhwng pobl â’i gilydd. ’Roedd yr arfer o fynegi holl droeon bywyd drwy ddull cerdd a chân yn ffordd o fyw. Dyma gyflwyno rhai o’r caneuon hynny (gydag un eithriad o gasgliad Caradog Pugh o Sir Drefaldwyn, ardal wledig a’i chymuned yn debyg iawn i un Llŷn ac Eifionydd) - caneuon serch a hiraeth, twyll a cholled, caneuon yn llawn hwyl a diddanwch a chaneuon yn llawn hanes lleol a’r cyfan yn ddrych i gymdeithas glos cefn gwlad yr oes a fu.
Mae Gwenan wrthi ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd Doethuriaeth gyda Prifysgol Bangor, dan nawdd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r ymchwil wedi caniatau iddi ganolbwyntio ar ganeuon ardal Llŷn ac Eifionydd. “Y man cychwyn a’r prif ysgogiad ar gyfer yr albym hwn”, meddai, “fu archif helaeth a hynod werthfawr Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wrth ymchwilio daeth sawl cân anghyfarwydd i’r golwg, yn arbennig felly o blith casgliadau cerddorion a chasglwyr o ardal Llŷn ac Eifionydd, megis R H Evans, Shân Emlyn, Daniel Evans a Robert Jones ‘Dwyfor’. Arweiniodd yr archif hefyd at sawl trywydd newydd ac at gasgliadau mwy anghyfarwydd Gwilym y Rhos a Thomas Rowlands ac mae fy niolch yn fawr i deuluoedd y ddau am bob cymorth parod ac am gael gweld eu casgliadau teuluol, personol o ganeuon.”
Canwr o’r Ffôr, ger Pwllheli, oedd Daniel Evans a chanodd lawer i hen faled i gasglwyr fel Dr J Lloyd Williams, baledi fel ‘Cariad y Garddwr’, a glywir ar yr albym. Daw’r fersiwn wahanol o’r ‘Deryn Pur’, sef ‘Y Gwcw Fach Lwydlas’ o waith casglu y gantores werin Shân Emlyn tra ar ymweliad â’r Wladfa ym Mhatagonia, cân a glywyd hefyd gan Meredydd Evans a Phyllis Kinney ym Mwlchtocyn ym Mhen Llŷn. O Melin Llecheiddior yn Eifionydd y dôi R H Evans a bu’n Brifathro Coleg Madryn yn Llŷn am gyfnod o 1913. Casglodd sawl cân yn perthyn i bobl Llŷn ac Eifionydd – ‘Meibion a Merched’, y gân serch llawn twyll a dial, yn un ohonynt, ac hefyd ‘Dacw Long’, y gân ar ffurf hen benillion fu mor boblogaidd yn yr ardal ddegawdau yn ôl. Yn Llundain y treuliodd Robert Jones ‘Dwyfor’ y rhan fwyaf o’i oes ond ym mhentref Llanystumdwy y treuliodd ei blentyndod a’i lencyndod a daw’r gân ‘Y Morwr Mwyn’ o gasgliad o ganeuon a gofiai o’i ddyddiau cynnar yn Eifionydd.
Baled anhysbys yw ‘Sgert Gwta Nain’ a oedd yn gorwedd mewn ffeil yn llawn o faledi hwyliog yng nghanol archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney, tra bod ‘Y Gwcw Ryfel’ yn rhan o gasgliad y canwr gwerin Caradog Pugh.
Daw gweddill caneuon yr albym o gasgliadau unigryw dau gymeriad nodedig – Gwilym y Rhos (William Jones, Ty’n Pwll, Rhoshirwaen – 1851–1925) a Thomas Rowlands (Rhiw, ac yn ddiweddarach, Murcyplau, Pencaenewydd – 1905–1986). Crydd a bardd gwlad oedd Gwilym y Rhos, ac mae ‘Trafnidiaeth yn Llŷn’, o waith gŵr lleol arall, David Moore, yn gerdd o’i gasgliad helaeth o faledi a chaneuon, ac yn gân sy’n edrych yn ôl ar y datblygiadau enfawr ym maes trafnidiaeth yn yr ardal. Ffermwr oedd Thomas Rowlands, wedi ei eni i deulu o feirdd a cherddorion. Bu’n was ffarm mewn nifer o ffermydd yn Llŷn o oedran ifanc gan ddod yn rhan o gymdeithas fywiog y llofft stabal. Yno y clywodd a dysgodd nifer o ganeuon a baledi a thaniodd y cyfan ddiddordeb byw ynddo ym myd y canu gwerin, diddordeb a barodd am oes. Daw ‘Anni Bach Rwy’n Mynd i Ffwrdd’ a ‘Ffarwel i Bencaenewydd’ o’i gasgliad personol o ganeuon – Anni Bach o waith Carneddog, ac yn gân a ddaeth yn ffefryn mewn sawl ardal ar sawl gwahanol alaw, a Ffarwel i Bencaenewydd yn fersiwn wahanol eto o un o ganeuon ffarwel y morwyr. Dyma ddwy gân fu’n boblogaidd ar lafar gwlad gan y gweision ffermydd. Mae ‘Y Drydedd Waith yw’r Goel’ yn faled a ddaeth i’r golwg yn ddiweddar iawn ac o waith ewythr i Thomas Rowlands, Daniel Rowlands, tra bod y ‘Rhigymau’ yn perthyn i’r traddodiad hynod boblogaidd yn Llŷn erstalwm o rigymu, pan fyddai penillion a dywediadau ffraeth yn cael eu rhannu ar lafar drwy’r fro, yn arbennig felly mewn mannau fel y llofft stabal ac yng ngwaith cerrig y Rhiw lle byddai’r gweithwyr yn cynnal eu hadloniant eu hunain amser cinio.
Gyda chyfraniadau cerddorol gan y dihafal Gwilym Bowen Rhys (Gitâr, Bouzouki a mandolin), Patrick Rimes (Ffidil a Feiola) ac Aled Wyn Hughes (Bas) ac wedi ei gyd-gynhyrchu gan Aled a Gwenan, dyma albym yn llawn swyn y dyddiau a fu mewn gwedd gyfoes. Daw’r gorffennol yn fyw a sawl cân anghofiedig i olau dydd unwaith eto ar yr albym yma o ganeuon pobl ardal Llŷn ac Eifionydd.
Llun y clawr: ‘Pwllheli Erstalwm’, Malcolm Gwyon
(Gyda diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y nawdd ariannol ar gyfer y gwaith ymchwil a diolch hefyd i Brifysgol Bangor)
1.Meibion a Merched
2.Ffarwel i Bencaenewydd
3.Y drydedd waith yw'r goel
4.Y gwcw fach lwydlas
5.Dacw long
6.Sgert gwta Nain
7.Cariad y garddwr
8.Trafnidiaeth yn Llŷn
9.Y morwr mwyn
10.Y gwcw ryfel
11.Rhigymau
12.Anni bach rwy'n mynd i ffwrdd