Hear My Prayer
Hear My Prayer
Traciau heb eu cyhoeddi o’r blaen, ei albym gyntaf (Diolch a Chân) a 2 drac bonws.
Fis Tachwedd 1983, recordiodd Aled Jones ei record gyntaf yng Nghadeirlan Bangor ac ugain mlynedd yn ddiweddarach mae SAIN yn falch o gyhoeddi CD Aled Jones “Hear my Prayer” sy’n cynnwys ei albym cyntaf, dau drac bonws a chaneuon nas cyhoeddwyd o’r blaen.
Llythyr gan y diweddar Hefina Orwig Evans o Fangor at Gwmni SAIN a arweiniodd at ddechrau gyrfa recordio un o lleisiau trebl gorau a glywodd y byd erioed. Cyhoeddodd SAIN y record hir “Diolch â Chân” yn 1983, “Ave Maria” yn 1984 a’r sengl “Too Young to Know” yn 1985. Fe recordiwyd drydedd albym yn cynnwys “Hear my Prayer” ond gwaharddwyd ei chyhoeddi pan arwyddodd Aled i gwmni Virgin. Mae hanner yr albym honno a “Chaneuon y Tri Aderyn” gan Dilys Elwyn-Edwards, ar y CD “Ave Maria” (SCD2095) ynghyd â’r albym wreiddiol o’r un enw. Ond nawr dyma gyfle i gyhoeddi gweddill y traciau nas cyhoeddwyd erioed o’r blaen, sy’n cynnwys y fersiwn llawn o “Hear my Prayer” gyda Chantorion Monteverdi, ei albym gyntaf un, ac fel traciau bonws, Too young to know a Bridge Over Trouble Water.
- Hear My Prayer
- Laudate Dominum
- The Lord's Prayer
- Silent Worship
- The Children's Home
- Panis Angelicus
- Diolch â Chân
- Llansteffan
- Y Fwyalchen Ddu Bigfelen
- Sarah
- Caro Mio Ben
- Ddwyfol Iesu
- Where'er You Walk
- How Beautiful are the Feet
- Rhosyn Rhudd
- Y Lili Ddŵr
- The Little Road to Bethlehem
- Ave Maria
- Bridge Over Troubled Water
- Too Young to Know