Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dylan Morris

Haul ar Fryn

Haul ar Fryn

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2825

Bron dros nos, daeth Dylan Morris yn enw ac yn llais cyfarwydd drwy Gymru gyfan.  Ers dechrau’r cyfnod clo mae ei berfformiadau ar dudalen facebook ‘Côr-ona!’ wedi denu dros 40,000 o wylwyr a’i boblogrwydd yn mynd o nerth i nerth.  Bellach mae ar fin rhyddhau ei EP cyntaf.

 

Wedi ei fagu yn sŵn rhai o gantorion Cymraeg poblogaidd y 60au, rhai fel Dafydd Iwan, Hogia Llandegai a Tony ac Aloma, roedd Dylan wastad â’i fryd ar gamu tu ôl i’r meic a chanu go iawn ar lwyfan, ond rhywsut, ddigwyddodd hynny ddim, tan yn ddiweddar.  Bu’n canu’n lleol mewn cystadleuthau karaoke a meic agored yn rhai o dafarndai tref Pwllheli ers rhai blynyddoedd ond chafodd o ddim ‘gig’ iddo’i hun tan Fawrth yr 2il eleni, a hynny mewn noson ‘Jazz a Chips’ yn un o siopau chips y dref.  Wedyn daeth y cyfnod clo a roddodd ddiwedd ar berfformio yn gyhoeddus am y tro.  Ond daeth cyfle arall iddo rannu ei berfformiadau, a hynny ar dudalen facebook ‘Cor-ona!’.  Hyd yn hyn mae Dylan wedi rhannu dros 70 o ganeuon, ei gynulleidfa yn tyfu o wythnos i wythnos a’i gymysgedd o ganeuon amrywiol, ei lais melfedaidd a’i arddull ddiffuant, gartrefol yn apelio at ystod eang o bobl o Fôn i Fynwy.

 Ddechrau’r haf bu’n cydweithio ag Arfon Wyn ar gân o waith Arfon a Rhian Evans, sef ‘Haul ar Fryn’, a dyma un o’r caneuon sydd i’w chlywed ar yr EP newydd.  Gyda chymorth cerddorion fel Arfon ar y gitâr, Nest Llewelyn Jones ar y piano a’r lleisiau cefndir, Sion Gwilym Roberts ar y drymiau a’r bas, Elin Haf Taylor ar y cello, Richard Synnott ar y sacsoffon a Russ Hayes ar y bas, piano drydan ac organ, mae’r EP yn cynnwys pedair cân wreiddiol a threfniant newydd o gan Tudur Huws Jones, ‘Angor’.

 Mae Dylan a’i gynulleidfa, fel nifer ohonom, yn edrych ymlaen at gyfnod pan fydd gigs byw yn rhan o fywyd pob dydd unwaith eto.  Yn y cyfamser, dyma gyfle i fwynhau perfformiadau newydd gan y canwr o Bwllheli a fu’n diddanu cymaint drwy ganu o’i stafell fyw...       

 1 Haul Ar Fryn
2 Be Dwi’n Mynd I Neud? (Hebddat Ti)
3 Does ‘Na Neb
4 Y Ferch Efo’r Galon Aur
5 Angor

Year
Gweld y manylion llawn