Haleliwia
Haleliwia
SKU:SCD2750
Ers ei sefydlu yn 1990 mae Ysgol Glanaethwy wedi rhyddhau saith albym o ganeuon, wedi cynnal miloedd o gyngherddau a sioeau, wedi teithio ledled y byd yn cystadlu a diddanu o Tsieina i Fwlgaria, o’r Eidal i Hwngari ac o’r Swistir i’r Weriniaeth Tsiec.
Fel rhan o ddathliadau’r ysgol yn 25ain, yn 2015, aeth Côr Glanaethwy ar daith i Batagonia, cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Choir of the Year ac ar y gyfres Britain’s Got Talent. Roedd pob un o’u teithiau’n llwyddiant ysgubol. Daeth y côr hŷn i’r brig yn y categori agored yn Llangollen ac enillodd y côr plant hwythau eu categori yng nghystadleuaeth Choir of the Year. Bu’r daith i Batagonia, gan orffen trwy ganu yn Eglwys Gadeiriol Buenos Aires, yn binacl arall ar eu blwyddyn o ddathlu. Ac wedi eu llwyddiant ar Britain’s Got Talent fe aethant ar daith i brif neuaddau cyngerdd Prydain yn diddanu’r tyrfaoedd. Yn y flwyddyn newydd bydd aelodau’r côr yn teithio dros yr Iwerydd i Efrog Newydd i berfformio Cantata Memoria gan Karl Jenkins yn y Carnegie Hall gan barhau ar eu siwrnai ryfeddol sydd wedi ennill iddynt ddilyniant byd eang gan gynnwys tros ugain miliwn o wylwyr ar YouTube! Mae’r aelodau’n gobeithio y bydd eu holl gefnogwyr yn prynu ac yn mwynhau’r arlwy diweddara sy’n gymysgedd o’r llon a’r lleddf, yr hen a’r newydd. Diolch am brynu a mwynhewch y gwrando!
- Benedictus
- Blodeuwedd
- Os Oes Gen i Gân i'w Chanu
- Reach
- Cantelina
- Iesu Yw
- River of Love
- Y Weddi
- Razzamatazz
- O Gymru
- Haleliwia