Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Lleuwen

Gwn Glân Beibl Budr

Gwn Glân Beibl Budr

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2805

Recordiwyd ‘Gwn Glân, Beibl Budr’ yn Stiwdio Sain yn ystod ail wythnos Rhagfyr 2017. Gyda’r recordio yn seiliedig ar berfformiadau byw yn y stiwdio fe gasglodd Lleuwen fand o gerddorion amrywiol ar gyfer y record yn cynnwys y delynores hynod Llio Rhydderch, y pianydd jazz Neil Cowley, y tenor clasurol Rhys Meirion, Owen Lloyd-Evans ar y bas dwbl ynghyd â‘r brodyr Dafydd ac Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog. O ganlyniad mae’r record yn amrwd, uniongyrchol, yn aml wedi ei fyrfyfyrio, yn gignoeth, yn lân, ac yn fudr.

Meddai Lleuwen “Mae’r band yn gymysgedd o gerddorion ydw i wedi gweithio efo nhw ar wahanol gyfnodau o ‘mywyd. Ma nhw’n dod o gefndiroedd cerddorol gwahanol iawn…jazz, clasurol, gwerin, roc…ond dim ots am y genres…. nes i ddewis y cerddorion hyn am eu bod nhw i gyd yn bobl sy’n mwynhau arbrofi efo sŵn. Roedd y caneuon eu hunain yn gyflawn yn barod felly roedd modd inni arbrofi gyda’r trefniannau yn y stiwdio a mynd i unrhywle gyda rheiny. A heblaw am Aled a Daf Cowbois’, doeddan nhw ddim yn nabod ei gilydd cynt. Roedd yn hwyl ac yn anrhydedd cael band o’r fath yn chwarae efo ‘nghaneuon.”

Mae’r albym yn ymdrin â myrdd o themâu. O’r gân syml ‘Bendigeidfran’ a ysgrifennodd Lleuwen i’w phlant y bore wedi pleidlais Brexit i egluro beth oedd newydd ddigwydd, i ganeuon yn ymdrin â dibyniaeth, ysbrydiaeth, twf trefol a chrebachu cefn gwlad, traffig ffordd, traffig ffôn a thraffig meddwl. Mae’n destament sydd yn llwyddo i fod yn anghyfforddus ei themâu ond yn fuddugoliaethus yn ei chwestiynau – â‘i hatebion.

“Dw i’n edrych ar Gymru o bell. O fanno daw’r record. Cymru mewn byd sy’n wleidyddol, ecolegol, ysbrydol fregus. Mae’n record o eithafion a chyferbyniadau… dyna sut mae’r byd yn hwylio ar hyn o bryd” – Lleuwen

  1.  Myn Mair
  2.  Y Garddwr
  3.  Hen Rebel
  4.  Cân Taid
  5.  Cwm Rhondda
  6.  Bendigeidfran
  7.  Tir Na Nog
  8.  Pam?
  9.  Cofia Fi
  10.  Caerdydd
  11.  Mynyddoedd
  12.  Y Don Olaf
  13.  Hwyr
Year
Gweld y manylion llawn