Gwlad am byth
Gwlad am byth
SKU:SCD2847
Dyma albym newydd o ganu gwlad gan rai o artistiaid amlycaf Cymru. Gyda mwyafrif y traciau wedi eu recordio o’r newydd, yn arbennig ar gyfer yr albym, mae’n gasgliad amrywiol, wedi ei gynhyrchu gan Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), a’i recordio yn Stiwdio Sain, gyda chriw o gerddorion yn cynnwys Aled ynghyd ag Osian Huw Williams, Iwan Hughes a Gethin Griffiths, gyda chymorth Euron Jones, Annette Bryn Parri a Carwyn Williams.
Yn ôl Dafydd Iwan, “mae’n anodd dweud ymhle mae gwreiddiau’r Canu Gwlad sydd wedi bod mor boblogaidd yn America, ac sydd wedi ennill cynulleidfa fawr yn y Gymru Gymraeg hefyd. Mae canu Gwerin o sawl gwlad wedi bwydo i mewn i’r traddodiad, a chanu crefyddol hefyd, ond efallai mai prif nodwedd Canu Gwlad yw ei fod yn perthyn i’r dosbarth gweithiol, ac yn barod bob amser i fynegi teimladau dwfn yn agored, heb gywilydd. I rai, mae’n gallu bod yn arwynebol sentimental, ond ar ei orau, mae’n cyffwrdd â’r galon fel na all caneuon eraill wneud. Wrth i’r arfer o brynu Cryno-Ddisgiau gilio, beth well na chasgliad o ganeuon gwlad newydd i ddangos bod bywyd o hyd yn y busnes recordio yma? Roedd yr ymateb yn wych, a nifer o’r hen ffefrynnau megis John ac Alun, Doreen Lewis, Dylan a Neil a Iona ac Andy yn barod iawn i gynnig caneuon newydd i’r casgliad. Ac i gadw cwmni iddyn nhw, mae nifer o gantorion a chyfansoddwyr mwy newydd fel Dylan Morris, Welsh Whisperer a Gethin a Glesni, sy’n gwneud enw iddynt eu hunain y dyddiau hyn. Ac yn ogystal, roedd hi’n bwysig i gynnwys y cantorion sy’n cadw nosweithiau yn gyson mewn tafarndai a gwestai a neuaddau ar hyd a lled Cymru – pobol fel Dafydd Pantrod, Tudur Wyn, Jonathan Davies, a Clive Edwards. Ac yna ychwanegwyd Gwyneth Glyn, y gyfansoddwraig alluog sydd ar gyrion y byd Canu Gwlad, ond yn ffitio i’r patrwm yn wych iawn. Mae yna enwau eraill wrth gwrs – a gobeithiwn y bydd lle iddyn nhw i gyd ar gasgliad newydd yn ystod 2023. Ond am rwan – mwynhewch y cyngerdd hwn o ganeuon gwlad newydd sbon danlli!”
1 Mae Hiraeth yn Brifo – DYLAN MORRIS
2 Cyn i’r Haul Fynd i Lawr – IONA AC ANDY
3 Werth y Byd yn Grwn – DOREEN LEWIS
4 Falle Rhyw Ddydd – JOHN AC ALUN
5 Cân Neil – DYLAN A NEIL
6 Wrth fy Modd – JONATHAN DAVIES
7 Gwyn dy Fyd – TUDUR WYN
8 Rhywun Fel Ti – CLIVE EDWARDS
9 Fe Godwn Ni Eto – DAFYDD PANTROD A’I FAND
10 Nôl i Faes y Sioe – WELSH WHISPERER
11 Llongwr – GETHIN A GLESNI
12 Nico bach – GWYNETH GLYN