Gwena
Gwena
SKU:SCD2833
Hen Ffefrynnau mewn gwisg Jazz
Dyma albym cyntaf y band Jazz o Gymru a ffurfiwyd yn 2013 gan y clarinetydd a’r lleisydd Rhys Taylor. Yn dair oed clywodd Rhys Jazz byw am y tro cyntaf yn nhafarn y Cŵps, Aberystwyth, wrth wrando ar fandiau fel y ‘Coopers Jazz Band’, lle ’roedd ei dad, Mike, yn chwarae’r banjo. Breuddwydiodd Rhys am fedru gwneud rhywbeth tebyg, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg, ac yn 2013 gwireddwyd y freuddwyd hon. Ers ffurfio’r band, maent wedi perfformio ledled y wlad, gan gynnwys gwyliau fel Tafwyl, Gwyl Nôl a ‘Mla’n, Tregaroc, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ar deledu a radio ac mewn priodasau a phartîon. Efallai mai’r uchafbwynt hyd yn hyn yw agor Gŵyl Jazz Aberhonddu yn 2018.
Yn 2021, ar ôl deunaw mis digon heriol i holl gerddorion y wlad, penderfynodd Rhys ddod â’r band at ei gilydd i recordio albwm. Mae’r band yn cynnwys Rhys ar y clarinet a’r llais, Gethin Liddington ar y trwmped, Gareth Roberts ar y trombôn, Nigel Hart ar y piano, Paul Hillman ar y bas dwbl a Paul Shepherd ar y drymiau a daethant at ei gilydd yn Stiwdio Acapela, Pentyrch, i recordio trefniannau newydd sbon Rhys ei hunan o hen ffefrynnau Cymreig a rhyngwladol. Mae ‘Moliannwn’, ‘Lawr ar lan y môr’ a ‘Rownd yr Horn’ yn cael gwisg newydd sbon gan y band a chyfansoddiad gwreiddiol Rhys, ‘Gwena’, yn sicr o lonni’r galon. Ychwanegwch glasuron fel ‘Panama’, ‘Sweet Georgia Brown’ a Stranger on the Shore’ a dyma’r cynhwysion perffaith ar gyfer albym Jazz heb ei ail.
Meddai Rhys: “ Pleser pur oedd cael y band yn ôl yn yr un ystafell ar ôl cymaint o amser i berfformio a mwynhau gyda’i gilydd ac mae’r albwm hon yn deyrnged i holl gerddorion y wlad, gyda diolch arbennig i Gethin, Gareth, Nigel, Paul a Paul.”
1 Moliannwn
2 Lawr Ar Lan Y Môr
3 Panama
4 Gwena
5 I Wanna Be Like You
6 Ty Ar Y Mynydd
7 Stranger On The Shore
8 Rownd Yr Horn
9 Sweet Georgia Brown
10 The Saints