Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Cor Meibion Taf

Gwahoddiad

Gwahoddiad

Pris rheolaidd £9.99 GBP
Pris rheolaidd £12.98 GBP Pris gwerthu £9.99 GBP
Pris gostyngol Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:SCD2856

Ffurfiwyd Côr Meibion Taf yn 2004 pan ddaeth tua ugain o gantorion ynghyd yng nghapel y Tabernacl yng Nghaerdydd i sefydlu’r côr meibion Cymraeg cyntaf yn y brifddinas. Bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach mae’r côr wedi tyfu i gynnwys dros drigain o aelodau, ac mae nifer fawr o’r criw cychwynnol yn dal yn aelodau. Maent wedi ennill y wobr gyntaf deirgwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae galw ar y côr yn aml i gynnal cyngherddau amrywiol gan gynnwys cyngherddau er budd elusennau gwahanol.


 Ar ddydd Gŵyl Ddewi 2023 gwahoddwyd y côr i berfformio yn Senedd Cymru ac maent wedi perfformio sawl gwaith yn Stadiwm Principality cyn gemau rygbi rhyngwladol. Mae’r côr wedi ymddangos ar lwyfan y Royal Albert Hall yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain ac ar lwyfan Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn y Proms Cymreig. Mae Côr Meibion Taf yn mwynhau cyfuno canu a theithio a thros y blynyddoedd mae’r côr wedi perfformio yn Sbaen, Yr Eidal, Gogledd America, Iwerddon, Lloegr a’r Alban.

 1 An American Trilogy    
 2 Deus Salutis  (LLEF)  
 3 Mor Hawddgar Yw Dy Bebyll    
 4 O Gymru    
 5 O Tannenbaum    
 6 Seren Nadolig    
 7 You’ll Never Walk Alone    
 8 Deryn Y Bwn    
 9 Gwahoddiad    
10 Myfanwy    
11 Pan Fo’r Nos Yn Hir    
12 Y Darlun  (DWY LAW YN ERFYN) 

Gweld y manylion llawn