Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Iona ac Andy

Goreuon

Goreuon

Pris rheolaidd £9.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £9.99 GBP
Pris gostyngol Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:SCD2803

Mae’r casgliad yma o ganeuon yn dathlu 40 o flynyddoedd yn canu gyda’n gilydd a chwarter canrif gyda chwmni Sain.

Rydym wedi cynnwys 17 o’r caneuon mwyaf poblogaidd ’da ni wedi eu recordio dros y chwarter canrif yn ogystal â recordio 3 cân ychwanegol. Mae dwy o’r caneuon yn rhai newydd a’r trydydd yn un o glasuron yr iaith Gymraeg gan Hogia’r Wyddfa sef y gân emosiynol gan y bardd T Rowland Hughes – Y Gwanwyn. Cefais fy magu yng nghysgod Yr Wyddfa yn Nantlle ac mae’r gân yn golygu llawer i mi.

Fe gyfansoddwyd y gan Dau Yn Un gan ein ffrind, a cherddor gwych, Geoff Betsworth a’i wraig Sarah ac mae’r gân Hafan yn golygu llawer i ni gan iddi ein helpu i ddod drwy gyfnod anodd pan oeddwn yn dod dros ganser dwywaith. Diolchwn i Dafydd Iwan am addasu’r ddwy gân yn wych a theimladwy iawn.

Hoffwn ddiolch i’n ffans sydd wedi dod yn ffrindiau ffyddlon dros y blynyddoedd – ’da chi’n wych o bobol a diolch i Sain am ryddhau’r casgliad yma o’n hoff ganeuon i ddathlu 40 o flynyddoedd o ganu gyda’n gilydd.

  1.  Hafan
  2.  Dau yn Un
  3.  Y Gwanwyn
  4.  Dwylo 'Nhad
  5.  Eldorado
  6.  Atgof am Eryri
  7.  Ym Mharadwys Fan Draw
  8.  Cerdded Dros y Mynydd
  9.  Cân y Bugail
  10.  Douarnenez
  11.  Beth yw Lliw y Gwynt
  12.  Yr Hen Oriawr Aur
  13.  Isaac Lewis
  14.  Awn i Wario D'Arian Cariad
  15.  Milltiroedd
  16.  Rhan o Dy Fyd
  17.  Y Ffordd
  18.  Rhywun Fel Ti
  19.  Ffeirio am Ffortiwn
  20.  Cân i Ynys Iona
Gweld y manylion llawn