CIwb
Gad Mi Ddod Mewn
Gad Mi Ddod Mewn
SKU:SAIN SCD2858
Pickup ar gael yn Sain
Fel arfer yn barod mewn 24 awr
Mae Gad Mi Ddod Mewn', yn ffrwyth llafur blwyddyn gron, ac aelodau Ciwb, sef Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams, wedi cydweithio eto gyda nifer o gantorion amlwg y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i greu cyfyrs newydd sbon o ganeuon o archif label Sain. Rhyddhawyd albym cyntaf y band, 'Wyt Ti'n Meddwl Bod o Wedi Darfod?', yn 2021 gyda chyfraniadau gan nifer o artistiaid amlwg fel Mared Williams, Rhys Gwynfor, Alys Williams, Osian Huw Williams, Iwan Fôn, Heledd Watkins, Joseff Owen, Lily Beau a Dafydd Owain. Mae'r albym newydd yn cynnwys rhestr arall o enwau cyffrous, sef Ifan Davies, Buddug, Magi, Ifan Pritchard, Hollie Singer, Lisa Jên, Griff Lynch ac artistiaid y ddwy sengl, Elidyr Glyn ac Eban Elwy.
Gyda fersiynau newydd o ganeuon artistiaid fel Sidan, Steve Eaves, Y Cyrff, Llwybr Cyhoeddus, Mojo, Trwynau Coch, Angylion Stanli, Heather Jones ac Edward H, mae'n gymysgfa o gerddoriaeth bop, roc meddal, a seicadelia, ac yn fwy eang o ran arddulliau cerddorol na'r albym cyntaf, a phob cyfyr yn cael triniaeth unigryw gan amlygu elfennau gwreiddiol y caneuon ond gyda talp enfawr o wreiddioldeb cerddorol Ciwb.
Bydd lansiad swyddogol yr albym yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, ar Orffennaf 12fed, fel rhan o Gŵyl Arall, lle bydd Ciwb yn gwneud perfformiad arbennig gyda cherddorion gwadd ac elfennau gweledol a ffilm hefyd yn rhan o'r digwyddiad. Dyma gyfle i glywed setiau byw gan artistiaid gwadd yr albym a pherfformiad arbennig o ganeuon yr albym gan Ciwb a'u cyfeillion. Bydd cyfle hefyd i glywed y band ar Lwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ddydd Sadwrn, Awst 1af.