Derec Williams, Linda Gittins, Penri Roberts
Pum Diwrnod o Ryddid
Pum Diwrnod o Ryddid
SKU:CS018
Methu â llwytho argaeledd casglu
Cefndir
Yn nhridegau’r ganrif cyn y ddiwethaf, gwelwyd y chwyldro cyntaf gan y dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Lansiwyd y Siarter yn y flwyddyn 1837 ac fe gafodd groeso brwdfrydig gan y gweithwyr ymhobman. Crisialwyd holl obeithion a dyheadau’r werin yng ngofynion y Siarter. O ystyried mai 16 miliwn o bobl oedd poblogaeth Prydain Fawr, mae’n arwyddocaol fod dros 3 miliwn, o ddynion yn unig, wedi arwyddo’r Siarter. Roedd y Siarter yn sicr yn chwyldroadol yn yr hyn a fynnai – pleidlais i bob dyn, pleidlais gudd heb orfod profi perchnogaeth. Bu gweithredoedd chwyldroadol ymudiad hwn yn ysbrydoliaeth, maes o law, i gewri megis Marx ac Engels. Gosodwyd amodau’r Siarter ger bron y Senedd yn Llundain ond gwrthodwyd pob un. Wedi’r gwrthod, daeth yr arweinwyr ynghyd i geisio penderfynu strategaeth y mudiad. Ni lwyddodd i roi arweiniad i’r gweithwyr ac ni welwyd unrhyw weithredu tactegol gan y mudiad yn ei gyfanrwydd. Dim ond yng Nghymru y gwelwyd gwrthdaro uniongyrchol, a hynny yn Llanidloes a Chasnewydd yn 1839. Yn Llanidloes, roedd mudiad y Siartwyr yn boblogaidd iawn ymysg y gweithwyr. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd yno, a mynychwyd hwy gan nifer fawr o bobl. Yn dilyn un o’r cyfarfodydd, arestiwyd tri o arweinwyr y Siartwyr gan heddweision a fewnfudwyd o Lundain. Cymerwyd y tri i westy’r Trewythen yn Stryd y Dderwen Fawr. Ymatebodd y dorf yn reddfol gan ymosod ar y gwesty a rhyddhau’r tri. Anafwyd yn ddifrifol un o’r heddweision yn y sgarmes ac fe achoswyd difrod mawr yn y Trewythen. Roedd T. E. Marsh, cyn faer y dref, yn allweddol iawn yn yr hyn a ddigwyddodd. Ef a alwodd am gymorth gan y milwyr i wrth sefyll y Siartwyr. Cred rhai ei fod wedi twyllo’r Siartwyr, gan roi’r argraff ar un adeg ei fod yn cydymdeimlo ag amcanion y mudiad. Llwyddodd y Siartwyr i reoli’r dref am bum niwrnod ond yna, wedi’r newydd gyrraedd y dref fod y milwyr ar eu ffordd, dihangodd arweinwyr y mudiad. Llwyddwyd i ddal y rhan fwyaf ohonynt ac fe’u dedfrydwyd yn Llys y Trallwng: James Morris, pymtheg mlynedd o alltudiaeth; John Ingram, Abraham Owen a Lewis Humphreys, saith mlynedd o alltudiaeth. Carcharwyd eraill yng ngharchar Trefaldwyn.Methiant fu’r gwrthdaro hwn yn Llanidloes oherwydd fod cyfalafiaeth yn orchfygol. Roedd y dosbarth gweithiol yn rhy anaeddfed eutactegaeth, yn rhy ansicr o’u hathroniaeth gwleidyddol. Er hynny, fe heuwyd yr hadau a gwelwyd ffrwythau’r aberth yn y genhedlaeth nesaf. Dim ond Pum Diwrnod o Ryddid a gafwyd yn Llanidloes, ond gadawyd y blas a’r dyhead am ryddid yng nghalonnau’r werin am byth.Perfformiwyd y ddrama gerdd Pum Diwrnod o Ryddid gan Gwmni Theatr Maldwyn yn Theatr Hafren Y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd yn Y Drenewydd yn 1988.Penri Roberts.
Act 1
Gol. 1 I be? . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 17
Rhoddwn ddiolch . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 34
Gol. 2 Fy mreuddwyd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 44
Gol. 3 Dewch i mewn . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 59
Gol. 4 Yn cau amdanaf i . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 75
Gol. 5 Naw o’r gloch . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 91
Gol. 6 Mae’n ddiwedd dydd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 117
Gol. 7 Y bicell a’r gwn . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 133
Gol. 8 Rhoddwn ddiolch 2 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 142
Gol. 9 Cannwyll ein rhyddid . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 147
Act 2
Gol. 10 Cannwyll ein rhyddid 2 . . . . . . . . . . . . . . . . . 157
Gol. 11 Na, na . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 173
Gol. 12 Wyt ti wedi meddwl? . . . . . . . . . . . . . . . . 205
Gol. 13 Arestio a galw’r bobl . . . . . . . . . 222
Gol. 14 Fy mreuddwyd 2 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 232
Gol. 15 Mae wedi mynd i’r diawl . . . . . . . . . . . . . . . 240
Gol. 16 Ar noson fel hon . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 245
Gol. 17 Ar y gorwel . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 251
Gol. 18 Muriau moel . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 260
Rhannu
