Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Aled Wyn Davies

Erwau'r Daith

Erwau'r Daith

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

Aled Wyn Davies Tenor

Mae enw Aled Wyn Davies erbyn hyn yn enw adnabyddus iawn yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n wyneb a llais cyfarwydd ar deledu a radio. Ef yw aelod newydd Tri Tenor Cymru ac mae’n falch iawn o gael rhyddhau eu cân newydd gyntaf ar yr albwm hwn. Cychwynnodd gyrfa Aled fel canwr gwerin ond ar ôl ennill y prif wobrau am ganu gwerin yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 1999, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001, dechreuodd dorri ei gŵys ei hun fel tenor o’r radd flaenaf. Un o brif ragoriaethau gyrfa Aled hyd yn hyn yw’r ffaith iddo ennill yr unawd tenor deirgwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna, yn 2006, coronwyd ei ymdrechion i gyd pan gipiodd y Rhuban Glas ym Mhrifwyl Abertawe. Mae hefyd wedi cael cryn lwyddiant mewn nifer o’n heisteddfodau pwysicaf gan gynnwys “Canwr y Flwyddyn” yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 2005 a’r Rhuban Glas yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2006. Yn 2006, cafodd Aled gyfle arbennig iawn gan “Raymond Gubbay Ltd”, sydd yn hyrwyddwr cyngherddau clasurol, pan berfformiodd mewn cyngherddau o’r Last Night of the Proms gan ganu mewn rhai o brif neuaddau Lloegr fel y Symphony Hall ym Mirmingham a’r Bridgewater Hall ym Manceinion. Mae Aled wedi teithio’n gyson o amgylch y byd. Mae wedi canu ym mhrif neuaddau Seland Newydd ac Awstralia pan ymunodd â Chôr Godre’r Aran fel eu hunawdydd gwadd ar eu taith gerddorol yn 2003. Ymunodd â nhw unwaith eto yn 2007 ar eu hymweliad â Phatagonia ac aeth i Dde Affrica yn 2008 gan ganu gyda Chôr Meibion Cymry De Affrica. Mae wedi canu deirgwaith yng nghyngherddau Gŵyl Ddewi Capel Cymraeg Los Angeles ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi perfformio ar fordeithiau operatig a chlasurol gan ymweld â Gogledd America, y Dwyrain Pell, yr Eidal, gwledydd y Baltig a De America. Yn ddiweddar, perfformiodd yng Ngŵyl Cymru Gogledd America ddwywaith a bu’n canu yn Ontario, Canada yn ogystal ag yn Ne Iwerddon gyda Chôr Meibion Treforys. Ym mis Tachwedd, 2006, rhyddhawyd ei gryno-ddisg cyntaf, Nodau Aur fy Nghân, dan label recordio Sain. Yn ystod yr haf, 2014, derbyniodd Aled wahoddiad arbennig iawn gan Rhys Meirion ac Aled Hall i ymuno â hwy fel un o Dri Tenor Cymru ac maent yn brysur iawn yn teithio Cymru a thu hwnt yn difyrru cynulleidfaoedd. Mae Aled yn enghraifft o gryfder y diwylliant Cymraeg ar ei orau – sef dyn ifanc sy’n dal i amaethu yn ei waith bob dydd yng nghanolbarth Cymru, ond ar yr un pryd yn defnyddio’i ddawn i gyrraedd y brig ym myd canu. Pan fydd llais naturiol yn cael ei gyfuno â phersonoliaeth gynnes, mae gennych rywbeth arbennig sy’n mynd yn syth at galonnau cynulleidfaoedd. Mae’r cyfuniad unigryw hwn yn amlwg ddigon yn y canwr rhadlon o Lanbrynmair.

Gair gan Aled

Mae naw mlynedd wedi hedfan heibio ers I mi ryddhau fy albwm cyntaf sef Nodau Aur fy Nghân, yn 2006, a dyma fi o’r diwedd yn cyflwyno fy ail albwm i’r byd sef Erwau’r Daith. Mae’r geiriau Erwau’r Daith yn ymddangos yn y gân Gweddi Daer a theimlaf eu bod yn eiriau arbennig o addas am eu bod yn disgrifio’n union fy sefyllfa ar hyn o bryd fel ffermwr sy’n mynd ar daith gerddorol yn ei fywyd. Diolch i Recordiau Sain am fy annog i gynhyrchu’r cryno-ddisg hwn er mwyn gwireddu’r freuddwyd! Dwi wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle i ganu mewn cyngherddau ledled y byd yn ystod y naw mlynedd diwethaf yma, gan gynnwys teithiau arbennig iawn i leoliadau hyfryd megis Patagonia, De Affrica a Chanada i enwi dim ond rhai, a chael cwrdd â ffrindiau annwyl dwi mewn cysylltiad â nhw hyd heddiw. Erbyn hyn, mae’n fraint arbennig i mi I gael bod yn un o Dri Tenor Cymru, a diolch I Rhys Meirion ac Aled Hall am eu cyfeillgarwch ac am ymuno â mi i recordio cân unigryw iawn i’r albwm hwn sef Y Goleuni gan Caradog Williams a Catrin Dafydd.

Diolch yn fawr hefyd i Gôr Meibion y Rhos am y gwahoddiad i recordio gyda nhw ac am adael i mi gynnwys dwy garol Nadoligaidd o’u cryno-ddisg diweddaraf sef O Holy Night a Carol y Seren. Roedd yna un gân yr oeddwn yn ysu am ei chynnwys yn y casgliad sef y ddeuawd boblogaidd o’r enw Y Weddi. Mae canu’r trefniant hwn gyda Sara Meredydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma wedi bod yn brofiad gwefreiddiol i mi a dwi mor falch fod Sara wedi cytuno i’w chanu hi gyda mi ar yr albwm hwn. Diolch i ti, Sara. Cân arall sydd erbyn hyn yn agos iawn at fy nghalon ydi Gweddi Daer gan mai Karina, fy ngwraig, sydd wedi cyfansoddi’r geiriau Cymraeg i gân Ron Block o’r enw A Living Prayer, a dwi’n siŵr y byddwch yn cytuno bod y cyfieithiad hwn yn wych. Mae fy nyled yn fawr iawn i Eirian Owen. Heb eich hyfforddiant a’ch cyngor amhrisiadwy, ni fyddwn wedi cyrraedd lle yr ydw i heddiw. Diolch i chi am eich cyfeiliant arbennig iawn ar y cryno-ddisg hwn, Eirian. Hoffem ddiolch i Karina, i fy nheulu, i fy ffrindiau ac i bawb sydd wedi fy nghefnogi fel canwr – mae eich anogaeth a’ch cefnogaeth yn cael eu gwerthfawrogi bob amser. Wrth ddymuno i chi’r gwrandawyr bob hwyl ar y gwrando, cyflwynaf y cryno-ddisg hwn i’r bobl a enwais uchod ond, yn fwy na neb, i’r ddau fach nad oedd yn bodoli y tro diwethaf i mi recordio albwm, sef fy mhlant, Aria ac Aron Wyn. Aled, Mehefin 2015

  1.  Galwad y Tywysog
  2.  Haleliwia
  3.  Some Enchanted Evening
  4.  L’Alba Sepàra Dalla Luce L’Ombra
  5.  Gweddi Daer
  6.  Musica Proibita
  7.  Y Goleuni (Tri Tenor Cymru)
  8.  Macushla
  9.  Lausanne
  10.  Yr Hen Gerddor
  11.  Y Weddi gyda/with Sara Meredydd
  12.  Hyder
  13.  Arafa Don
  14.  I'll Walk with God
  15.  Granada
  16.  O Holy Night gyda/with Chôr Meibion y Rhos
  17.  Carol y Seren gyda/with Chôr Meibion y Rhos
Gweld y manylion llawn