Encore
Encore
Ar un nos o haf digwyddodd i’r tair cantores boblogaidd, Ellen Williams, Gwawr Edwards a Sioned Terry, gyd ganu o flaen cynulleidfa wresog ac o ganlyniad i anogaeth frwdfrydig sawl aelod o’r cyhoedd y noson honno, fe annwyd y triawd clasurol Athena. Byrlymus iawn fu’r flwyddyn i’r tair yn sgil y noson arbennig honno gyda chyngherddau a pherfformiadau ledled y wlad.
Pleser o’r mwyaf felly, blwyddyn yn ddiweddarach, yw i Athena gael cyflwyno eu cryno ddisg gyntaf, Encore, ar label Recordiau Sain. Ynghyd ag ambell i ffefryn Cymreig ar y recordiad fe geir amrywiaeth o ganeuon clasurol a phoblogaidd sy’n arddangos dylanwad a sain neilltuol Athena, gyda threfniannau newydd a gwreiddiol; ambell i un o ddwylo’r merched eu hunain.
Gobaith Athena yw y bydd Encore yn dod a phleser mawr i’r gynulleidfa sydd eisoes wedi bod mor gefnogol wrthynt dros y flwyddyn ac i ennyn gwrandawyr newydd i fwynhau eu sain a’u doniau unigryw hwy.
- Nella Fantasia
- Bassey Medley (Diamonds Are Forever/Goldfinger/Kiss Me Honey Honey/I Am What I Am)
- Calon Lân
- O Mio Babbino Caro
- Mil Harddach Wyt
- Somewhere Only We Know
- Ave Maria
- Wrth I’r Afon Gwrdd A’r Lli
- Bridge Over Troubled Water (+ Steffan Lloyd Owen)
- Moon River
- Carol Y Gannwyll
- O Holy Night