Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Rhisiart Arwel

Encil

Encil

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2832

Mae’n bleser mawr cael cyflwyno dewis newydd o gerddoriaeth boblogaidd ar gyfer y gitâr. Fel ar fy nghryno ddisg cyntaf, Etifeddiaeth, a ryddhawyd yn 2018, rwy’n gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb, Mae’r detholiad yma yn cynrychioli’r math o gerddoriaeth rwy’n mwynhau perfformio a gwrando arno.

Diolch arbennig i Meirion Dole am ei waith ysbrydoledig a chreadigol gyda’r delweddau ac i Myfyr Isaac am ei waith cywrain a thrylwyr arferol gyda’r cymysgu a’r
mastro. Diolch hefyd i Sandra (De Pol) am ei gwaith ar y cyfieithiadau Sbaeneg, ac i Gwenan Gibbard o Gwmni Sain.

Ysbrydolwyd y cryno ddisg a’r trac Encil gan gyfnod clo 2020/21, felly rwy’n gobeithio bydd y detholiad newydd yma yn rhoi pleser ac yn cynnig balm i’r enaid”. Rhisiart Arwel

Astudiodd Rhisiart y gitâr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion a threuliodd gyfnod yn astudio ymhellach ym Madrid gyda Ricardo Iznaola ac yn Llundain gyda John Duarte.

Mae Rhisiart yn gitarydd dawnus ac mae’n perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad ac ar y radio a’r teledu. Mae ei raglen berfformio yn cynnwys cerddoriaeth o bob rhan o’r byd, gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth o Sbaen a De America. Mae hefyd yn drefnydd a chyfansoddwr medrus ac mae esiamplau pellach o’i waith yn ymddangos ar y cryno ddisg hwn.

Dyma ail gryno ddisg Rhisiart i gwmni Sain – cyhoeddwyd Etifeddiaeth yn 2018.

1) Scherzino Mexicano
2) Asturias (Leyenda)
3) La Paloma
4) Hwiangerdd Op 41
5) Verano Porteῆo
6) Prelude – Cyfres i’r Cello (#1 BWV 1007)
7) Loure – Partita Rhif #3 (BWV 1006)
8) Prelude – Prelude, Fuge & Allegro (BWV 998)
9) Llef
10) Andante Op 45 #5
11) Andante Largo Op 5 #5
12) Sonata yn A, K322    
13) Torija (Elegia)
14) Encil

Year
Gweld y manylion llawn