Emynau Pantycelyn
Emynau Pantycelyn
SKU:SCD2776
P’run ai eich bod yn arddel y ffyd Gristnogol neu beidio, enw cyfarwydd i ni fel Cymry yw William Williams, Pantycelyn. Fe’i ystyrir yn fardd rhamantaidd cyntaf Ewrop, yn ddiwygiwr carismatig fu’n un o arweinwyr Diwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif gyda Daniel Rowland a Howel Harris, yn awdur ac yn emynydd eithriadol o doreithiog.
Er nad ef oedd y cyntaf i sgrifennu emynau yn ein hiaith, meddyliwn amdano fel tad yr emyn cynulleidfaol Cymraeg. Yn ei waith yn cyfansoddi cannoedd o emynau (oddeutu 900-1,000 mae’n debyg), rhoddodd batrwm i eraill ei ddilyn. Er i wres diwygiadau’r ddeunawfed ganrif (a’r diwygiadau a’u dilynodd) oeri, mae canu o hyd ar emynau Pantycelyn. Mae’n nhw i’w clywed mewn oedfaon ar y Sul, ac anaml y cynhelir cymanfa ganu heb o leiaf un o’i emynau. Ond fel y dengys yr amrywiaeth sy’n y CD hwn, mae apêl ei emynau yn mynd y tu hwnt i waliau’r capel a’r eglwys. Mae emynau Pantycelyn yn rhan o repertoire unawdwyr a chorau. Mae ei emynau hefyd yn cyrraedd y dafarn a’r cae chwarae, a’i eiriau fe sy’n deitl i’r rhaglenni teledu Dechrau Canu, Dechrau Canmol (S4C) a Songs of Praise(s) (BBC).
Beth sydd i’w gyfri am ei apêl fel emynydd? Mae symlrwydd yn y dweud, gallwn ddeall y neges yn syth. Mae’r emynau’n codi o’r seiadau ac felly’n rhan o brofiadau cyffredin Cristnogion drwy’r oesoedd. Ac mae’r emynau yn Grist‑ganolog a Beibl‑ganolog, sy’n golygu nad ydyn nhw’n dyddio.
Mae hanes y ffermwr o sir Gaerfyrddin a oedd â’i fryd ar fynd yn feddyg yn un epig. Pwy feddyliai dri chan mlynedd oddi ar ei eni y byddai ei waith a’i genadwri wedi teithio mor bell, ac y byddai wedi cael effaith mor bellgyrhaeddol arnom yn ysbrydol ac yn ddiwylliannol? Mae emynau Williams Pantycelyn yn dal yn fyw, ac ry’n ni fel cenedl yn dal i’w hanwesu. Delyth Morgans Phillips
- Gwyn a Gwridog, Hawddgar Iawn - CÔR Y BRYTHONIAID
- Disgyn Iesu o’th Gynteddoedd - ALED WYN DAVIES
- O Nefol Addfwyn Oen - CÔR RHUTHUN
- Mi Dafla Maich Oddi ar Fy Ngwar - CYMANFA CORAU UNEDIG YNYS MÔN
- Arglwydd, Arwain Trwy'r Anialwch - MARY LLOYD-DAVIES
- Yn Eden, Cofiaf Hynny Fyth - CANTORION COLIN JONES
- Iesu, Iesu, Rwyt ti'n Ddigon - CÔR SEIRIOL
- Y Cysur i Gyd - D. EIFION THOMAS
- Dechrau Canu, Dechrau Canmol - CÔR MEIBION DYFNANT
- Dacw'r Ardal, Dacw'r Hafan - DAVID LLOYD
- Gwaed dy Groes - CÔR MEIBION PONTARDDULAIS
- Pererin Wyf - IRIS WILLIAMS A'R CANOLWYR
- Atat, Arglwydd, Trof fy Wyneb - CANTORION CREIGIAU
- Tyred, Iesu, i'r Anialwch - STUART BURROWS
- Marchog, Iesu, yn Llwyddiannus - CÔR MEIBION MYNYDD MAWR
- O Llefara Addfwyn Iesu - CÔR MERCHED GLYNDŴR
- Heddiw'r Ffynnon a Agorwyd - RICHIE TOMOS
- Dros Bechadur Buost Farw - CÔR MEIBION CYMRY LLUNDAIN
- Ffordd Newydd Wnaed gan Iesu Grist - CÔR PENYBERTH
- Ni Fuasai Gennyf Obaith - LLEUWEN STEFFAN