Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dafydd Iwan

Emynau

Emynau

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2731

Roedd recordio’r emynau hyn yn brofiad hollol wahanol i mi. Wedi hanner canrif o recordio fy nghaneuon i fy hun, hynny yw, caneuon sy’n ceisio dweud beth sydd gen i i’w ddweud, mewn arddull yr oeddwn i’n gyfforddus ag o, roedd ceisio mynd dan groen caneuon pobol eraill, a’r rheini, er mor gyfarwydd, yn glasuron o emynau, yn her a hanner. Mae’r emynau hyn yn rhan ohonof bellach, a minnau wedi fy magu yn eu cwmni erioed, ond mae hynny yn gwneud yr her yn fwy. Emynau wedi eu cyfansoddi i’w canu gan gynulleidfa ydyn nhw’n bennaf, ac fe’u dewisais am fod yr alawon yn apelio, a’r geiriau mor rymus, ac yn golygu cymaint mwy na’r ystyr yn unig. Ac wrth eu canu eto, roedd crefft y geiriau yn dod fwyfwy i’r amlwg; efallai nad yw’r eirfa a’r ieithwedd mor gynefin inni bellach, ond mae rhyw hud a nerth ynddyn nhw sy’n cipio’r anadl. A doeddwn i erioed o’r blaen wedi sylwi, er enghraifft, fod pob llinell yn emyn mawr Edward Jones, “Cyfamod hedd”, yn llinell o gynghanedd sain, o stumio rhywfaint ar y rheolau.

Mae’n gasgliad personol yn yr ystyr fod yr emynau wedi eu dewis am eu bod yn ffefrynnau arbennig, a gobeithio y cewch chithau flas ar glywed eu cyflwyno gyda chyfeiliant ychydig yn wahanol i’r arfer. Nid fy mwriad oedd creu casgliad “modern” yn ystyr arwynebol y gair hwnnw, ond ceisio cyfleu mawredd a swyn y campweithiau cyfarwydd hyn mewn arddull addas a synhwyrol. Rwy’n ddiolchgar iawn i Hefin yn arbennig, a Siôn y peiriannydd, am helpu henwr i wneud y gorau o adnoddau sy’n dechrau dadfeilio, a hefyd i Gôr Dre a Siân, a Mirain, Ffion ac Elain am eu cyd-ganu hyfryd, yn ogystal ag aelodau’r “Band”, Charli Britton, Hefin, Wyn Pearson a Pwyll ap Siôn am eu cyfeiliant.

Diolch hefyd i Dewi Glyn am ei luniau; roedd hi’n fore hyfryd o Fehefin pan aethom yn ôl i’m hen gynefin yn Llanuwchllyn, a thynnu lluniau yng nghyffiniau cyfarwydd Yr Hen Gapel, a’i gysylltiadau â Michael D. Jones, ac ar y ffordd adre, aros wrth gapel coffa Capel Celyn. Mae’r emynau hyn yn ein cydio wrth ein hanes a’n tir, ein gorfoledd a’n tristwch, yn ogystal â’r byd a ddaw. Fy ngobaith mwyaf yw bod y neges – y neges bwysicaf o bob neges – yn llwyddo i ddod drosodd yn y datganiadau syml hyn. Dafydd Iwan, Mehefin 2015

  1.  Gwahoddiad
  2.  Saron
  3.  Navarre
  4.  Lausanne
  5.  Ellers
  6.  Wilton Square
  7.  Agnus Dei
  8.  Hen Ddarbi
  9.  Amazing Grace
  10.  Berwyn
  11.  Dim Ond Iesu
  12. Bees
  13.  Theodora
  14.  Bydd Canu yn y Nefoedd
Year
Gweld y manylion llawn