Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Meic Stevens

Dyma'r Ffordd i Fyw

Dyma'r Ffordd i Fyw

Pris arferol £24.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £24.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2692

Mae’r oes sydd ohoni wedi newid yn eithriadol ers yr 80au ac mae technoleg yn rhan anatod o hynny gan ein bod bellach yn gwrando ar gerddoriaeth oddi ar CDs neu yn lawrlwytho oddi ar y wê. Yn naturiol felly, dim ond canran fechan iawn sydd yn dal i allu gwrando ar hen recordiau feinyl drwy ddefnyddio chwaraewr recordiau priodol. Mae Sain yn falch iawn felly o gael cyhoeddi casgliad sy’n cynnwys yr albyms a gyhoeddodd Meic Stevens yn ystod yr 80au, y rhai oedd ar feinyl yn wreiddiol ac erioed wedi eu cyhoeddi ar gryno ddisg. Hon yw ail gyfrol y gyfres o dair a fydd yn gwneud set gyflawn o weithiau Meic. Y gyntaf oedd “Disgwyl Rhywbeth Gwell i Ddod”, sy’n cynnwys 57 o’i draciau cynnar a recordiwyd rhwng 1968 ac 1979.

Yn y llyfryn a geir ynghlwm a’r casgliad, mae Gari Melville wedi gwneud ei waith ymchwil yn drylwyr iawn ac yn olrhain hanes Meic a’i gerddoriaeth o’r cychwyn cyntaf. Dyma bwt o’r cyflwyniad hwnnw...

“Yr 1980 'au

Erbyn diwedd y degawd, 'roedd Meic yn chwilio am fand newydd, ac fe ddaeth ar draws Y Cadillacs. Cyn-aelodau o Racing Cars, a welodd lwyddiant gyda'r sengl "They Shoot Horses Don't They" ym 1977, oedd y rhain. Fe fyddent i recordio a theithio gyda Meic am y degawd nesaf. Yn eu plith roedd Graham Williams, un o'r gitarwyr gorau erioed o Gymru. Aeth Meic a'i fand newydd ati i recordio'r albwm Saesneg "Cider Glider", yn Jacobs Studios yn Farnham, Surrey. Fe'i rhyddhawyd yn Ffrainc yn unig, i hybu taith fer o Lydaw ganddynt.

Ym 1981, ennillodd Meic y wobr "Canwr Gorau", yn Noson Wobrwyo Sgrech. Byddai i ennill y wobr yma am y pedair mlynedd nesaf yn olynol, hefyd!

Ar gyfer ei record hir nesaf, fe benderfynodd ddychwelyd i'w wreiddiau. "Nos Du, Nos Da", yw ei gampwaith werin. Wedi ei gynhyrchu gan Meic yn stiwdio Sain, mae'n cynnwys rhai o'r caneuon mwya’ prydferth a thrawiadol mae erioed wedi 'sgrifennu.Yn gerddorol, mae'n cynnwys yn ogystal ddawn aruthrol y gitarydd Patrice Marzin o Lydaw, a'r ddeuawd werin Strachan a Griffiths. Yn yr un flwyddyn hefyd, fe ymddangosodd yn y gyfres ddrama "Joni Jones" ar S4C.

Mae gan "Gitâr Yn Y Twll Dan Stâr", sy'n dilyn, sŵn lawer mwy trwm na'i rhagflaenydd. Mae'n werth nodi fod hon yn cynnwys caneuon o "Hirdaith a Chraith y Garreg Ddu". Opera roc oedd hon, wedi ei 'sgrifennu gan Meic ac wedi ei chomisiynu gan y BBC, ond yn anffodus nid oedd i weld golau dydd. Dyma hefyd y tro cyntaf iddo ddefnyddio Marc Jones a Marc Williams fel adran rhithm.

Ym 1984, cafodd Meic ei urddo'n aelod o'r Orsedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan. Cafodd gyfweliad ar y pryd ar gyfer radio answyddogol Cymdeithas yr Iaith gan neb llai na Rhys Ifans, cyn ei ddyddiau fel actor byd enwog!

Dychwelodd y Cadillacs i chwarae ar y record hir nesaf, "Lapis Lazuli". Tynnwyd y darlun clawr trawiadol mewn stiwdio ffotograffaidd yn Helsinki, tra 'roedd Meic yno yn ymweld â ffrind iddo o’r enw Glyn Banks.

Y flwyddyn ganlynol, recordiwyd dwy gân yn stiwdio Fflach yn Aberteifi, ar gyfer EP wedi ei rhannu gyda Ail Symudiad.

Ym 1987, comisiynwyd rhaglen ddogfen awr o hyd gan S4C. 'Roedd "Y Brawd Houdini" i ddilyn Meic a'i fand newydd tra'n teithio ac yn recordio ar gyfer albwm newydd. Casglwyd nifer o gerddorion sesiwn o Lundain o'r radd uchaf at ei gilydd, gan gynnwys Brian Godding, ffrind agos i Meic, gynt o'r band Blossom Toes. Yn anffodus, ac er fawr siomedigaeth i Meic, 'roedd yr albwm gorffenedig, "Gwin a Mŵg a Merched Drwg", i'w rhyddhau ar ffurf caset yn unig.

'Roedd y diwydiant gerddoriaeth yn dioddef chwyldro arall. Fel yn y 1950'au, gyda recordiau feinyl 45 a 33/3 cyf yn cymryd lle disgiau shelac 78cyf, 'roedd y CD nawr yn dechrau cymryd lle feinyl. Ar y cychwyn, 'roedd y disgiau yma yn gostus iawn i'w cynhyrchu, tra 'roedd y caset yn gymharol rhad.

Penderfynodd Meic recordio albwm ddwyieithog nesaf, wedi ei anelu at y farchnad werin. Ffurfiwyd band newydd o gerddorion gwerin y tro yma, yn eu plith, Dave Reid ar y bas a anfarwolwyd yn y gân "Dai Dall", oddi ar "Gôg". Rhyddhawyd "Bywyd ac Angau", eto ar ffurf caset yn unig, gyda Fflach yn gwasgu nifer bychain ar feinyl fel promos.”

 

CD 1: Gwymon (1972)

Shw mae? Shw mae?, Brenin y Nos, Cura dy law, Traeth Anobaith, O mor lân yr oedd y dŵr, Galarnad, Merch o’r ffatri wlân, Gwely gwag, Mynd i weld y byd, Daeth neb yn ôl, Carangarw, Mae’r eliffant yn cofio popeth, Dic Penderyn, Santiana

CD 2: Nos Du, Nos Da (1982) Y Meirw Byw, Dyma’r ffordd i fyw, Bobby Sands, Y Paentiwr Coch, Môr o gariad, Capel Bronwen, Cegin dawdd y cythraul, Dic Penderyn, Saith Seren, Bethan mewn cwsg, Nos du, nos da

CD 3: Gitar yn y Twll dan Stâr (1983) Dwi eisiau dawnsio, Arglwydd Penrhyn, Perygl yn y fro, Cyllell trwy’r galon, Ysbryd Solfa, Mynd i ffwrdd fel hyn, Aros yma heno, Dociau llwyd Caerdydd, Storom, ‘Sdim eisiau dweud ffarwel

CD 4: Lapis Lazuli (1985) Yn y prynhawn, Lawr ar y gwaelod, Lapis Lazuli, Gwên, gwên, gwenu, Sylvia, Siwsi’n galw, Erwan, Glas yw lliw y gêm, Noson Oer Nadolig, Y gair ola’

CD 5: Gwin a Mwg a Merched Drwg (1987) Victor Parker, Timothy Davey,  Joshua, Ar y mynydd, Fwdw, Parti gwyllt, John Burnett,  Mona Lisa, Y Clown, Diwedd y gân

CD 6: Bywyd ac Angau (1989) Uncle Victor, Ghosts of Solva, The Clown in the alley, Distawrwydd yr anialwch, Machynlleth/Ty Coch Caerdydd, Dyffryn Rhyfedd, Sailors song, Takes a country boy to sing a country song, Still waters, Redona Polka/Y Derwydd/Pib-ddawns Gwyr Wrecsam,  Pretty Polly, The Mary Whitehouse Song

Year
Gweld y manylion llawn