Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dafydd Iwan

Dos i Ganu

Dos i Ganu

Pris arferol £2.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £2.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2600

Mae Dafydd Iwan yn canu 11 o ganeuon ar ei albym yma, DOS I GANU. Mae 7 o’r caneuon yn newydd sbon danlli, dwy yn rhai diweddar o waith Tudur Huws Jones, un yn draddodiadol a’r llall yn eiriau newydd gan Dafydd ar alaw “You raise me up”. Cyflwynir y geiriau hynny, “Cysura fi” i’w briod Bethan am ei gynnal yn y dyddiau anodd.

Sbardunwyd yr albym, a’r gân-deitl, gan y faner a osodwyd ar bont yng Nghaernarfon adeg etholiad Mai 2008, yn dilyn helynt ad-drefnu ysgolion Gwynedd. “Roeddwn i’n gocyn hitio go iawn yr adeg hynny” medd Dafydd, “ac felly mae yna arlliw bersonol a gwleidyddol i’r caneuon hyn, weithiau o ddifri, ac weithiau rhwng difri a chwarae, gyda thipyn o gellwair hefyd.”

Un gân sy’n siwr o dynnu gwên (a gwg o bosib!) yw “Mwstasho y gaucho”, y geiriau gan fardd gwlad anhysbys, a does neb yn siwr a ydi gwreiddiau’r gerdd ym Mhatagonia, neu a yw gwrthrych y gerdd yn berson go iawn. Am y tro cyntaf erioed, mae Dafydd wedi cyfansoddi cân o safbwynt milwr o Gymro, sy’n mynegi ei wrthwynebiad i ryfel Irac. “Beth sy’n waeth yn fy meddwl i na gyrru pobol ifanc i gael eu lladd mewn rhyfel” medd Dafydd, “yw eu gyrru i gael eu lladd mewn rhyfel anghyfreithlon fel rhyfel Irac”. Thema arall sy’n rhedeg drwy nifer o’r caneuon ar yr albym yw grym caneuon, a gallu’r gân i godi calon a chadw’r fflam ynghyn.

  1. Dos i Ganu
  2. Tyrd, Aros am Funud
  3. Mae Gen i F'egwyddorion
  4. Mae Cymru'n Mynnu Byw
  5. Mwstasho y Gaucho
  6. Cana dy Gân
  7. Cân y Milwr
  8. Cysura Fi
  9. Ambell i Gân
  10. Angor
  11. Amser Maith yn Ôl


Year
Gweld y manylion llawn