Dim Ond Un Gair
Dim Ond Un Gair
SKU:SCD2352
Dyma’r bugail-bostfeistr rhadlon o Lanbedr-Pont-Steffan a fedyddiwyd gan Dai Jones Llanilar yn “Pavarotti Llambed”.
Dyma, yn ddi-os, un o’r lleisiau tenor gorau a gynhyrchodd Cymru erioed, ac ni ddylai’r ffaith iddo fodloni ar aros a gweithio yn ei filltir sgwâr ein camarwain. Gallai, mi allai Timothy fod wedi gwneud ei farc ar y byd opera rhyngwladol fel un o leiswyr mawr ei oes, ond dewisach ganddo oedd aros gartref a chyfoethogi diwylliant ac adloniant ei fro a’i wlad ei hun. Ond mae ei apêl yn fwy na llais yn unig gan fod ei bersonoliaeth hynaws a’i ffordd naturiol o drin ei gynulleidfa hefyd yn rhan bwysig o’i lwyddiant.
Ond yn raddol, mae’r byd yn dod i glywed amdano, ac yn dotio at ei lais. Bu ar deithiau canu ar sawl cyfandir, gan gynnwys Awstralia bell, a’r un fu’r ymateb gwefreiddiol i’w ganu naturiol a chynnes ym mhob man. Mae ei Gryno-Ddisgiau yn gwerthu drwy’r byd, ac yn awr cawn fwynhau ei albym diweddaraf “Dim ond un gair”.
Ar yr albym hir–ddigwylieidg yma ceir sawl cyfieithiad o ganeuon poblogaidd sef “Rhosyn fy Myd” (Rose of My Heart), “Fy eiddo wyt Ti” (Remember you’re Mine), “Dim ond un gair” (Words), “Duw ar y Mynydd” (God on the Mountain) i enwi ond rhai! Trefnwyd “Pokarekare” a “Hine Hine” gan Annette Bryn Parri – sydd hefyd wedi cynhyrchu’r albym ac mae Côr Annette, sef Côr Meibion y Traeth, yn canu cefndir ar sawl trac ar yr albym! Clywir lleisiau
- Dim Ond Un Gair
- Duw Ar Y Mynydd
- Rhosyn Fy Myd
- Os Na Ddaw Yfory 'Nôl
- Fy Eiddo Wyt Ti
- Pokarekare
- Cwsg
- Cymru Fy Ngwlad
- Bwrdd Du Fy Nghalon
- Hen Fae Ceredigion
- Estron Ydwyf I
- Hine E Hine