Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Elin Fflur

Dim Gair

Dim Gair

Pris rheolaidd £5.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £5.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

Cryno ddisg cyntaf unigol y gantores ifanc o Fôn, Elin Fflur. Wedi llwyddiant cynnar gyda'r grwp Carlotta, daeth Elin i sylw cenedlaethol ar ôl perfformio'r gân fuddugol yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002. Ymunodd wedyn gyda'r grwp bythol boblogaidd – Y Moniars gan fwynhau llwyddiant digymar gyda chyhoeddi eu CD cyntaf gydag Elin fel prif leisydd – Harbwr Diogel (SAIN SCD2380).Bellach, mae Elin Fflur wedi mentro fel cantores unigol ac yn ymuno â llinach gre y gantores/ gyfansoddwraig Gymraeg. Mae ei chaneuon yn deillio o brofiadau personol neu rai sy'n agos ati ac mae pob cân ar y CD yn berfformiad angerddol a didwyll gan Elin gyda'r llais a'r carisma sydd wedi syfrdanu ei chynulleidfaoedd. Mae'r casgliad yma o'i chaneuon yn brawf pendant o'i dawn fel cantores a chyfansoddwraig. 

  1. Dim gair
  2. Ydio’n wir?
  3. Ddoi’m yn ôl
  4. Pan ddaw’r haul
  5. Mae’r ysbryd yn troi
  6. Tybed lla mae hi heno?
  7. Paid troi dy gefn
  8. Y llwybr lawr i’r dyffryn
  9. Ar lan y môr
  10. Syrthio Unwaith
  11. Unwaith
  12. Gwylio sêr y nos
Gweld y manylion llawn