Deg | 10
Deg | 10
Eleni mae’r grŵp gwerin Calan yn dathlu 10 mlynedd ers rhyddhau eu cryno ddisg cyntaf Bling, ac i ddathlu’r garreg filltir mae’r band ar daith ac yn rhyddhau casgliad o’u hoff draciau gydag ambell recordiad newydd sbon. Arbrofi yw’r gêm i Calan – y nod yw rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth draddodiadol o Gymru, ac maent yn llwyddo i roi sŵn ffres a bywiog i’n halawon traddodiadol a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd – ymysg yr hen alawon mae cyfansoddiadau newydd gan aelodau’r band hefyd – sy’n siŵr o blesio! Dechreuodd y daith wrth bysgio ar strydoedd Caerdydd ac yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae sawl carreg filltir gofiadwy ar hyd y ffordd, o berfformio i 25,000 o bobl yng Ngŵyl Cropredy, rhannu llwyfan gyda Sting a Bryn Terfel yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain, i ddawnsio a pherfformio yng nglaw mawr y Borneo Rainforest Festival.
Mae’r daith yn parhau i Calan – cenhadon i gerddoriaeth Cymru ym mhedwar ban byd!
- Calan
- Blodau'r Flwyddyn
- Jonah
- New Set
- Swansea Hosepipe
- Tale of Two Dragons
- Cariad Caerlŷr
- Kân
- Big D
- Ryan Jigs
- Madame Fromage
- Last Song
- Iron Town
- Peth Mawr Ydi Cariad
- Deio i Dywyn (Byw/Live)
- Slip Jigs (Byw/Live)
- Apparition (Remix)
- Synnwyr Solomon (Remix)