Dadeni
Dadeni
Wedi cyfnod hynod o brysur ers i’w halbym cyntaf, ‘Mae ’na Olau’, gipio gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn y llynedd, mae Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym yn edrych ymlaen at gael rhannu caneuon newydd sbon, ac at gyfnod cyffrous arall yn hanes y grŵp sydd wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Daeth Pedair, gyda’u harmonïau ysgubol, eu hymdriniaeth grefftus â’n traddodiad ac agosatrwydd eu caneuon, yn ffynhonnell cysur a gobaith yng nghyfnod dyrys y clo, a bu eu perfformiadau byw niferus dros y blynyddoedd diwethaf yn tystio i’w poblogrwydd cynyddol. Wrth i’r cyfeillgarwch rhyngddynt gryfhau, dwysáu hefyd wnaeth y cwlwm a’r ddealltwriaeth sy’n hanfodol wrth gydweithio a chyd-berfformio. Mae hynny bellach wedi dwyn ffrwyth mewn casgliad o ganeuon newydd sy’n adlewyrchiad o daith bywyd y misoedd a fu. Machlud a gwawr, haul ac awel, dŵr, halen a thân... dyma rai o’r elfennau fu’n ffrwtian yn y pair ers rhyddhau'r albym cyntaf. Bu sawl colled a newid byd ers hynny, ac mae’r modd mae’r byd ei hun yn newid yn ddychryn... Ond mae’r casgliad yma yn ein hatgoffa fod pob diweddglo yn ddechrau newydd. Pan fydd cerrig mân yn ein baglu, daw natur, chwaeroliaeth, a chariad i’n codi’n ôl ar ein traed.
Mae ‘Dadeni’ yn arddangos cryfderau’r pedair fel chwedl-ganwyr y traddodiad gwerin tra ar yr un pryd yn amlygu eu doniau fel cantorion-gyfansoddwyr. Awn ar daith, o gân i gân, o ddyfnderoedd tywyll yr enaid i lawenydd brig y don, o’r tywyllwch i’r goleuni, o ddoe ymlaen at heddiw ac yfory.
Cawn gyfle i fwynhau caneuon gwreiddiol gan Gwenan Gibbard, sy'n prysur fagu hyder fel cyfansoddwraig; mae 'Y Môr' a 'Rho dy Alaw' yn ddwy gân ddirdynnol, llawn gobaith, am ganfod nerth a llawenydd yng nghanol heriau bywyd. Mae tawelwch myfyrgar 'Machlud a Gwawr' Meinir Gwilym yn wrthbwynt trawiadol i'w hanthem gignoeth 'Dos â Hi Adra', sy'n cael ei gyrru gan ddrymio medrus Osian Huw Williams a gitâr fas Aled Wyn Hughes (Cowbois) - a gynhyrchodd yr albym ar y cŷd â Pedair. Tri cherddor arall sy'n ymddangos ar y casgliad ydi Gwilym Bowen Rhys, Patrick Rimes a Gwern ap Gwyn, ill tri yn ychwanegu haenau newydd i sain y grŵp, sy'n parhau i fod â'i wreiddiau yn y traddodiad gwerin. Cawn drefniant unigryw Siân James o gân allan o gasgliad Y Fonesig Ruth Herbert Lewis - 'O Blwy' Llanrwst'. Cyd-ysgrifennodd Siân a Gwyneth Glyn 'Golomen Wen', cân amserol ond oesol sy'n dyheu am i ni bobol y byd ddysgu cyd-fyw yn heddychlon â'n gilydd.
Anrhydedd arbennig ydi cael cynnwys fersiwn o 'Dŵr, Halen a Thân' - cân sydd mor enigmatig ac unigryw â'r athrylith â'i cyfansoddodd hi - sef yr annwyl Dewi 'Pws' Morris. Mae'r thema o golled a galar yn gwau drwy'r casgliad hwn, ac yn cyrraedd penllanw yn y trac clo grymus 'Cerrig Mân' a gyfansoddwyd gan Gwyneth Glyn. Ond mae gwawr yn dilyn pob machlud, ac mae'r cylchdro hwnnw yn ein hatgoffa fod rhaid gwerthfawrogi pob diwrnod newydd a ddaw i'n rhan, a sylweddoli mai 'Rŵan Hyn' mae'r dyddiau da.