Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dylan Morris

'da ni ar yr un lôn

'da ni ar yr un lôn

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2836

Mae’r 18 mis dwythaf wedi bod yn gyfnod prysur tu hwnt i Dylan Morris. Llwyddodd i godi calon y genedl gyda’i ganu rhwydd, apelgar ar y we a daeth yn enw drwy Gymru gyfan. Wedi llwyddiant ei EP ‘Haul ar Fryn’ yn 2020, mae’n bleser gan Sain ryddhau ei albym cyntaf. Wedi ei gynhyrchu gan Aled Wyn Hughes mae Dylan wedi cael cwmni nifer o gerddorion a chyfeillion i greu albym o ganeuon amrywiol a phersonol – Aled ar y bas, Arfon Wyn ar y gitâr, Nest Llewelyn ar y piano a lleisiau cefndir, Gwion Llewelyn ar y drymiau, Euron Jôs ar y gitâr bedal ddur, Elin Taylor ar y cello a Nia Wyn, lleisiau cefndir. Mae rhyddhau ei albym cyntaf wedi bod yn sbardun i Dylan ysgrifennu geiriau am y tro cyntaf. Mae ‘Dagrau yn y Glaw’ yn deyrnged bersonol i’w daid, fu’n gymaint o ddylanwad arno. Ei daid a’i nain, Now a Betty, gyflwynodd Dylan i gymaint o fawrion y sin gerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Yn blentyn treuliodd oriau hapus iawn yn eu cwmni yn gwrando ar rai fel Dafydd Iwan a Hogia Llandegai, a’r oriau rheiny wedi bod yn hwb pendant i Dylan gychwyn canu ei hun. Bu’n canu mewn ambell dafarn yn lleol ac mewn cystadlaethau meic agored am rai blynyddoedd, ond flwyddyn a hanner yn ôl y cychwynnodd adeiladu ei gynulleidfa go iawn ac ers hynny aeth ei boblogrwydd o nerth i nerth. Mae sawl cân ar yr albym wedi eu cyfansoddi gan Arfon Wyn, un a fu’n gefn ac yn gyfaill i Dylan dros y flwyddyn a hanner ddwythaf, ac mae cân gyntaf yr albym, ‘Dyddiau Gwell’, yn gywaith rhwng y ddau ac yn gân o obaith mewn dyddiau dyrys. Mae ‘Ar yr un lôn’ yn gân newydd sbon gan Tudur Huws Jones ac yn ein hargyhoeddi nad oes ots am liw, statws na safle, gan ein bod i gyd yn y pendraw ‘ar yr un lôn’. Baled draddodiadol yw ‘Tŷ Coch Caerdydd’ ac mewn cyferbyniad llwyr mae dwy gân Saesneg hefyd ar yr albym, y ddwy yn ganeuon gwreiddiol gan Arfon Wyn. Mae dwy westai arbennig yn ymuno ar yr albym hefyd, dwy gantores sy’n agos iawn at Dylan – mae ei chwaer, Siân, yn ymuno ar y ddeuawd ‘Y Gwydriad Olaf’, cyfieithiad Dylan ei hun o’r gân ‘Whiskey Lullaby’, a Cari, merch Dylan, sy’n serennu ar y ddeuawd ‘Canu yn codi calon’, cân sy’n sicr yn llwyddo i wneud hynny, ac sydd hefyd yn cynnwys Aron, mab Dylan, ar y tamborîn. Bellach, daeth cyfle i berfformio’n fyw eto, ac i Dylan, dyma brofiad arbennig, gan mai trwy dudalen facebook Cor-ona y bu’n cysylltu yn bennaf â’i gynulleidfa hyd yn hyn. Meddai Dylan: “Mae’r cyfnod ers Ebrill 2020 wedi bod yn un anodd iawn ond i mi, a llawer o bobl eraill, mae tudalen facebook Cor-ona wedi bod yn gysur ac yn achubiaeth yn ystod y pandemig – tudalen llawn cerddoriaeth a hwyl, lle codwyd calonnau miloedd a lle cychwynnodd fy nhaith fythgofiadwy i. Doedd gen i ddim disgwyliadau ond mawr yw fy niolch am y gefnogaeth a’r geiriau caredig a’r cyfleoedd a’r profiadau anhygoel sydd wedi dilyn.” Drwy ei ymddangosiadau teledu diweddar a’r perfformiadau byw sydd ar y gweill mae Dylan Morris yng nghanol cyfnod prysur arall a bydd ei albym cyntaf yn sicr yn cael derbyniad gwresog gan gynulleidfaoedd ymhell ac agos.

Dyddiau gwell
2 Ar yr un lôn
Dargrau yn y glaw
4 Os dwedi ffarwel
5 Y gwydriad olaf
6 Tŷ coch Caerdydd
Cwch dy gariad
Magic gift
Canu yn codi calon
10 Your lucky stars
11 Ti byth yn deud gair

Gweld y manylion llawn