Arfon Wyn
Cyrraedd Yr Harbwr Diogel (Caneuon Arfon Wyn)
Cyrraedd Yr Harbwr Diogel (Caneuon Arfon Wyn)
SKU:SCD2842
Methu â llwytho argaeledd casglu
Casgliad o ganeuon un o gantorion-gyfansoddwyr mwyaf toreithiog Cymru – yn cynnwys traciau gan Yr Atgyfodiad, Pererin, Arfon Wyn a Chyfeillion, Moniars, Elin Fflur, Sara Mai, Dylan Morris, Eirlys Parri, Linda Griffiths ac artistiaid eraill amrywiol.
Yn dilyn cyhoeddi ei gyfrol o ‘atgofion drwy ganeuon’ (Gwasg Carreg Gwalch), a dathlu ei benblwydd yn 70, daeth cyfle i hel ynghyd rai o ganeuon a thraciau mwyaf poblogaidd Arfon Wyn – cerddor fu’n rhan o’r sin gerddorol yma yng Nghymru ers degawdau ac un a roddodd i ni rai o’n caneuon cyfoes Cymraeg mwyaf poblogaidd. Dechreuodd gyfansoddi caneuon Cymraeg yn bymtheg oed, wedi ambell flwyddyn yn ysgrifennu yn Saesneg, dan ddylanwad y Beatles a’u tebyg. Meic Stevens oedd y dylanwad mawr arno yr adeg honno a chanu’r trwbadŵr o Solfa fu’r ysbrydoliaeth i Arfon droi at gyfansoddi ac ysgrifennu yn y Gymraeg. “Rwy’n credu bod hyn yn wir am lawer yn yr un cyfnod”, meddai Arfon, “...roedd ei ganeuon yn hollol afaelgar a chyfoes efo geiria’ da ac alawon treiddgar.”
Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi bod yn blatfform amlwg i ganeuon Arfon ar hyd y blynyddoedd a bu’n fuddugol yn y gystadleuaeth bum gwaith gyda chaneuon fel ‘Harbwr Diogel’ a ‘Cae o Ŷd’. Ysgogiad arall i gyfansoddi oedd y grwpiau lu y bu’n aelod ohonynt dros y blynyddoedd. Tra yn y Brifysgol ym Mangor ffurfiodd y grŵp Cristnogol ei naws Yr Atgyfodiad, a rhyddhawyd EP ganddynt ar label Sain yn 1974 ac un o’r traciau yn ymddangos ar gasgliad Gruff Rhys, Welsh Rarebeat. Wedi dyddiau’r Atgyfodiad, daeth Pererin, y grŵp roc gwerin dderbyniodd sylw a phoblogrwydd rhyngwladol gan ryddhau pedwar albym a chael eu crybwyll gan Hans Pokora yn y gyfrol 3001 Record Collector Dreams. Bu Arfon hefyd yn aelod o Hergest a rhyddhaodd gerddoriaeth gyda Pry Clustiog ac Arfon Wyn a’i gyfeillion ac ar hyd y blynyddoedd bu’n weithgar yn hybu a pherfformio cerddoriaeth gyda phlant ag anableddau dysgu yn Ysgol Hafod Lon.
Erbyn dechrau’r 90au, roedd Arfon yn brysur tu hwnt gyda’r grŵp Moniars – un o fandiau prysuraf Cymru, heb os, ar un cyfnod. Mae’r grŵp yn parhau i berfformio ar lwyfannau ledled Cymru gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda’u caneuon roc gwerin, bywiog. Mae’r grŵp wedi mwynhau cyfraniadau gan nifer o gantorion a cherddorion gwadd ar hyd y blynyddoedd ac wedi rhyddhau saith albym.
Mae’r casgliad hwn yn dyst i’r holl weithgarwch cerddorol fu’n rhan o fywyd Arfon ac yn arddangos ei ddawn fel cyfansoddwr poblogaidd a medrus sy’n gallu troi ei law at gyfansoddi caneuon sy’n cyffwrdd y galon a chaneuon sydd yn aml yn cynnwys neges am fywyd. Meddai Arfon, “digwyddiadau, lluniau a phrofiadau unigryw fydd yn fy ysbrydoli i ’sgwennu cân a dyna yw hanes Cyrraedd yr Harbwr Diogel.”
CD 1
CÂN Y CRWYDRYN (YR ATGYFODIAD)
Oddi ar Cân y Crwydryn Sain 41 - 1974
NI WELAF YR HAF (PERERIN)
Oddi ar Haul ar yr Eira SYWM 215 - 1980
Y DRWS (PERERIN)
Oddi ar Teithgan SYWM 230 - 1981
CREDAF (ARFON WYN A CHYFEILLION)
Oddi ar Credaf SYW 225 - 1981
PWY WNAETH Y SÊR UWCHBEN? (ARFON WYN A CHYFEILLION)
Oddi ar Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben SYWD 235 - 1982
CURIAD CALON I FFWRDD (MONIARS)
Oddi ar Methu Cadw Ni Lawr Fflach CD208H - 1998
PAN DDAW YR HAF (EIRLYS PARRI)
Oddi ar Ffordd y Ffair Sain C628 - 1998
FE GODWN ETO (MONIARS)
Oddi ar Fe Godwn Eto Crai C024 - 1995
CARIADON BOSNIA (LINDA GRIFFITHS)
Oddi ar Plant y Môr Sain SCD2072 - 1994
RICHIE AC IFAN (MONIARS)
Oddi ar Hyd’noed Nain yn Dawnsio Crai CD052 - 1995
CAE O ŶD (MARTIN BEATTIE)
Oddi ar Cae o Ŷd Sain SCD2277 - 2000
HARBWR DIOGEL (ELIN FFLUR A’R MONIARS)
Oddi ar Harbwr Diogel Sain SCD2380 - 2002
PAID Â CAU Y DRWS (ELIN FFLUR A’R MONIARS)
Oddi ar Harbwr Diogel Sain SCD2380 - 2002
PAPILLION (ELIN FFLUR A’R MONIARS)
Oddi ar Harbwr Diogel Sain SCD2380 - 2002
CYN I’R HAUL FYND LAWR (MONIARS)
Oddi ar Cyn i’r Haul Fynd i Lawr Label Ciansi - 2015
Y LLEUAD A’R SÊR (MONIARS)
Oddi ar Cyn i’r Haul Fynd i Lawr Label Ciansi - 2015
HAUL AR FRYN (DYLAN MORRIS)
Oddi ar Haul ar Fryn Sain SCD2825 - 2020
BUFFALO BILL (MONIAR)
Oddi ar Fe Godwn Eto Crai C024 - 1995
DOES ’NA NEB (MONIARS)
Oddi ar Fe Godwn Eto Crai C024 – 1995
CD 2
Y LLWYBR (MONIARS)
Oddi ar Fe Godwn Eto Crai C024 - 1995
GOLOMEN FACH (MONIARS)
Oddi ar I’r Carnifal Crai C038 - 1993
I’R CARNIFAL (MONIARS)
Oddi ar I’r Carnifal Crai C038 - 1993
WOODY (MONIARS)
Oddi ar I’r Carnifal Crai C038 - 1993
BRIFO TU MEWN (MONIARS)
Oddi ar I’r Carnifal Crai C038 - 1993
ADRA ERBYN DOLIG (MONIARS)
Oddi ar I’r Carnifal Crai C038 - 1993
CLWB YR MG’s (Irish Rover) (MONIAR)
Oddi ar I’r Carnifal Crai C038 - 1993
CWCH DY GARIAD (MONIARS)
Oddi ar Methu Cadw Ni Lawr Fflach CD208H - 1998
MAB Y SAER (MONIARS)
Oddi ar Cyn i’r Haul Fynd i Lawr Label Ciansi - 2015
JASMIN (PERERIN)
Oddi ar Yng Ngolau Dydd Sain C639 - 1998
WYT TI’N GWYBOD (MONIARS)
Oddi ar Methu Cadw Ni Lawr Fflach CD208H - 1998
HEN CYN EI HAMSER (MONIARS)
Oddi ar Methu Cadw Ni Lawr Fflach CD208H - 1998
YN DY LYGAID DI (MONIARS)
Oddi ar Cyn i’r Haul Fynd i Lawr Label Ciansi - 2015
YMHELL O’R DDINAS (MONIARS)
Oddi ar Cyn i’r Haul Fynd i Lawr Label Ciansi - 2015
YR ARWR(Cân Ulysses) (SARA MAI A’R MONIARS)
Oddi ar Edrych Ymlaen at Edrych yn ôl Sain SCD2435 - 2005
DINAS NODDFA (LINDA GRIFFITHS)
Oddi ar Plant y Môr Sain SCD2072 - 1994
GORFFENNAF (SARA MAI A’R MONIARS)
Oddi ar Edrych Ymlaen at Edrych yn ôl Sain SCD2435 - 2005
Y FERCH EFO’R GALON AUR (DYLAN MORRIS)
Oddi ar Haul ar Fryn Sain SCD2825 - 2020
Rhannu
