Cymru Gwynfor
Cymru Gwynfor
Detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith i ddathlu Cymru a bywyd y Dr. Gwynfor Evans.
Cerddi - Pa Beth Yw Dyn?, Y Ddrafft, Englynion Coffa Hedd Wyn, Eifionydd, Sir Gaerfyrddin, Y Meirwon, Rygbi, Pantycelyn, Blychau, Crib Goch, Llyn Y Gadair, Preseli, Cymru’n Un, Cymru (Detholiad), Ar Gyfeiliorn, Rhiannon, Anerchiad Etholiad Y Parch. Lewis Valentine, The Meeting, Cymru 1937, Y Tangnefeddwyr, Cân Bom, Fel Hyn Y Bu, Rhydcymerau, Ar Waun Casmael, Pa Beth A Wnawn Ni?, Hedydd Yn Yr Haul, Llyfr Hanes, Detholiad O “Hen Dy Ffarm”, Corlannau, Capel Celyn, Detholiad O “Tynged Yr Iaith”,Yr Heniaith, Colli Iaith, Recordiad O Ganlyniad Caerfyrddin, When Gwynfor Got In For Carmarthen, Gorffennaf 14eg, 1966, Trannoeth Is-Etholiad Caerfyrddin, Melys Yw, Fy Ngwlad, Etifeddiaeth, Llanw A Thrai, Darllen Y Map Yn Iawn, Cyffes Y Bardd, Yma O Hyd, Y Rhufeiniaid, Aderyn Rhyddid, Bwletin Newyddion – Marwolaeth Gwynfor, Eirlysiau, Detholiad O “Ymadawiad Arthur” Llefaru – Dyfan Roberts, Sharon Morgan. Mae Mabon ap Gwynfor yn darllen pytiau o “Bywyd Cymro” rhwng y cerddi Cryno-ddisg yn cynnwys detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith i ddathlu Cymru a bywyd y Dr. Gwynfor Evans (1:9:1912 – 21:4:2005)
Darllenwyr: Sharon Morgan a Dyfan Roberts gyda Mabon ap Gwynfor yn darllen detholiadau o hunan-gofiant Dr. Gwynfor Evans, “Bywyd Cymro” Cerddoriaeth, offerynnau: Owain Llwyd; Lleisiau: Côr Aelwyd yr Ynys.
Cyhoeddwyd y casgliad fel rhan o’r dathliadau i nodi deugeinfed pen-blwydd y fuddugoliaeth fawr yn Is-etholiad Caerfyrddin, Gorffennaf 14eg, 1966. Ond bydd yn gasgliad a ddeil yn ei flas tra pery’r iaith Gymraeg, a thra pery’r cof am un o Gymry mwyaf yr ugeinfed ganrif. Roedd Gwynfor Evans yn fwy na gwleidydd; yr oedd yn ymgorfforiad o ddyhead cenedl am ryddid, am ddyfodol gwell i’n pobl, ac am fyd o heddwch a brawdgarwch. Ond yr oedd, er mor danbaid ei weledigaeth, yn ddyn a’i draed yn solet ar ddaear Cymru. Gwyddai mai trwy gyd-weithio a chyd-dynnu y gwireddid ein breuddwyd, ac mai trwy waith dygn a dyfalbarhad di-ildio y caem y maen i’r wal. Hawdd iawn, o gofio hyn oll, yn ogystal â’i argyhoeddiad dwfn fel Cristion a heddychwr, fyddai ei ddarlunio fel gwr difrif-ddwys a di-hiwmor, ond gwneud cam ag ef fyddai hynny. Roedd Gwynfor, fel y tystia pawb o’i deulu a’i gydnabod agosaf, yn ddyn a chwerthin yn ei enaid, ac ni fyddai dim yn well ganddo na rhannu yn nigrifwch a hwyl cwmnïaeth werinol a ffraeth. Mae’r detholiad cyfoethog hwn o farddoniaeth a rhyddiaith, a gasglwyd ynghyd gan Dyfan Roberts, yn gais i gyfleu Cymru Gwynfor Evans, a’r gwerthoedd a’i gyrrodd ac a’i cynhaliodd drwy oes hir o ymgyrchu. Yma clywir lleisiau rhai o’n prif feirdd, megis Waldo a Gwenallt, yn mynegi’r cenedlaetholdeb hwnnw sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn yn ein hanes a’n tir, ac sydd eto mor eang â’r ddynoliaeth gyfan. Clymir y cyfan yn gelfydd gan gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig gan Owain Llwyd, o Brifysgol Cymru, Bangor, a geiriau Gwynfor ei hun o’i hunangofiant “Bywyd Cymro”, yn cael eu darllen gan ei wyr, Mabon ap Gwynfor.