Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Richard Hughes & Stewart Jones

Co Bach ac Ifas y Tryc

Co Bach ac Ifas y Tryc

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2678

Mewn gwirionedd, does yna fawr yn gyffredin rhwng y ddau.

Gwr busnes yw Ifas Cariwr o Eifionydd, ac un o dre Caernarfon yw’r Co Bach, heb fod mewn busnes o gwbwl. Ond eto mae yna rywbeth yn gyffredin. Mae’r ddau yn medru ei “deud hi”. Mae gan y ddau farn bendant ar faterion mawr y dydd, ac y mae gan y ddau deulu, a thipyn o deirant yn wraig. Efallai na fydden nhw’n licio fy nghlywed yn deud hyn ar goedd, ond ‘Mrs. Ifas cw’ a’r ‘Hen Fodan’ oedd y bos, er mai Ifas a’r Co Bach oedd ar flaen y llwyfan.

Wil Sam, y dramodydd a’r dewin geiria o Ros-lan a greodd Ifas, a Stewart Jones, yr actor a ddysgodd ei grefft ar lwyfannau’r Steddfod a’r Gegin yng Nghricieth a’i gwnaeth yn fyw o flaen ein llygaid. Ar y teledu i ddechrau, yn rhaglen Rhydderch Jones, Stiwdio B. Ond yna daeth Ifas yn fyw go iawn ar lwyfannau’r wlad, ac yn enwedig felly yn ei Eifionydd hoff. Ac o’r munud cyntaf, ychwanegodd Ifas yn ddirfawr at eirfa ac idiomau’r iaith Gymraeg, ac wrth gwrs, at ein crebwyll fasnachol fel cenedl.

Gruffudd Parry, y gwr rhadlon o Garmel a ymgartrefodd ym Mhen Llŷn, oedd creawdwr y Co Bach, a hynny ar gyfer un o raglenni Sam Jones ar y radio. A rhywbeth munud ola, i lenwi bwlch fel tae, oedd hynny. Ond o’r gwrandawiad cyntaf un, fe wyddai’r gynulleidfa fod yna glamp o gymeriad wedi ei eni ar y llwyfan Cymraeg. A hwnnw yn siarad iaith Caernarfon , y dafiodiaith unigryw honno sy’n dal ei thir i raddau hyd heddiw, er fod y gyfundrefn addysg a’n syniad o’r hyn sy’n “gywir” bron, bron â’i gwthio i ebargofiant.

Gwrandewch a mwynhewch. Athrylith Wil Sam a Gruff Parry yn cael ei droi’n adloniant pur di-amser gan Stewart Jones, yr actor o Eifionydd a’r Alban, a Richard Huws, y siopwr hynaws o’r Felinheli. Perl o Gryno-Ddisg na chlywir ei bath eto am hir iawn.

           Co Bach:

  1. Di-mob
  2. Y ffliw
  3. Cin a Cwîn
  4. Y mochod bach
  5. Lerpwl
  6. Straeon mawr y byd – Napolion
  7. Nid cardod i ddyn ond gwaith
  8. Smocio, Y Ddrama
  9. Hen Chwedlau’r Cymry – Bendigeidfran
  10. Ymddangosiad anarferol yn Hen Walia

        Ifas y Tryc:

  1. Y Singing Tebot
  2. Y Sasiwn Blant
  3. Sbot Checs
  4. Fisitors
  5. Traffig
Year
Gweld y manylion llawn