Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

C'mon Midffild

C'mon Midffild a Rasbrijam

C'mon Midffild a Rasbrijam

Pris arferol £12.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:DVD111

Os oes unrhyw gyfres Gymraeg wedi dal dychymyg y genedl, C'mon Midffild yw honno. Cyfrinach ei llwyddiant yw cynildeb a gwreiddioldeb y sgript, ynghyd ag actorion da mewn cymeriadau y gall pawb uniaethu â nhw. Mae'n fformiwla syml...ond llwyddiannus!  A dyna paham yn 2002 y penderfynodd Sain mai C'mon Midffild fyddai’r gyfres Gymraeg cyntaf i ymddangos ar DVD.

Fe ysgrifennwyd y gyfres gan Alun Ffred Jones a Mei Jones ar gyfer radio yn wreiddiol ond ar ôl tair cyfres radio fe’i throsglwyddwyd i’r sgrin fach am y tro cyntaf ar y 18ed o Dachwedd 1988. Blynyddoedd yn ddiweddarach mae C’Mon Midffild yn dal i gydio yn nychymyg pobl, a rheiny yn genhedlaeth newydd o wylwyr.

Mae Sain eisoes wedi cyhoeddi deg DVD yn y gyfres, ond gydag ymddangosiad ffilm Rasbrijam ar deledu am y tro cyntaf Nadolig 2004 bu galw cynyddol am gael y ffilm ar DVD i gwblhau’r gyfres yn ei chyfanrwydd! Felly dyma fo y DVD olaf un (trist iawn, feri sad) – Ar ôl damwain car, mae Sandra yn yr ysbyty, ac mae criw Bryncoch yng weithio’n galed i wiredu breuddwyd Sandra o fynd ag anrhegion i gartref plant amddifad yn Azerbaijan. Ond mae’r daith yn llawn helynt, gyda Tecs yn trio cadw’r heddwch rhwng Arthur a George.

Sicrhewch fod gennych y 10 DVD arall er mwyn mwynhau'r gyfres deledu yn ei chyfanrwydd!!!

Hyd: 90 munud
Iaith: Cymraeg
Lliw: Llawn
Tystysgrif: E

Gweld y manylion llawn