Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dylan Morris

Chwilio Am Y Gân

Chwilio Am Y Gân

Pris rheolaidd €21,00 EUR
Pris rheolaidd Pris gwerthu €21,00 EUR
Pris gostyngol Gwerthu allan
Dyletswyddau a threthi wedi'u cynnwys.

SKU:RHAG-ARCHEBU - SAIN SCD2879

By placing your order you agree to purchase from Global-e as the merchant of record, subject to Global-e’s Terms and Conditions and Privacy Policy, and share your information with Sain.

DYDDIAD RHYDDHAU - Hydref 30ain

Mae Sain yn falch o gyflwyno ail albym y canwr o Bwllheli, Dylan Morris. Daeth Dylan yn amlwg yn ystod y cyfnod clo gan ryddhau caneuon, senglau ac albym ar label Sain dros y blynyddoedd diwethaf. Bellach, mae’n barod i rannu rhagor o ganeuon a’r albym newydd, ‘Chwilio am y Gân’, albym sy’n arddangos sain newydd yn tueddu mwy at ganu gwlad cyfoes.

Gyda chriw o gerddorion gwych - Aled Wyn Hughes ar y bas ac offerynnau taro, Deian Elfryn ar y drymiau, John Williams ar allweddellau, Patrick Rimes ar y llinynnau, Wyn Pearson ar gitâr acwstig a gitâr drydan, Euron Jones ar y gitâr pedal ddur a Gwenan Gibbard ar y delyn - ac wedi ei gynhyrchu gan Aled Wyn Hughes a’i recordio yn Stiwdio Sain, dyma albym sy’n adlewyrchu taith bersonol Dylan o ddarganfod ei arddull cerddorol ac o greu repertoire newydd sy’n dyst i gyfnod prysur a chynhyrchiol yn ei fywyd tra ar yr un pryd yn mynegi profiadau personol sy’n agos at ei galon.

“Mae wedi cymryd ychydig yn hirach na’r disgwyl i allu rhannu’r albym yma”, meddai Dylan, “ond mae’r blynyddoedd dwytha wedi mynd â fi ar daith o ddatblygu fy hun fel artist ac i chwilio am syniadau, geiriau ac alawon…Mae wedi bod yn daith addysgiadol i mi wrth i mi geisio ysgrifennu a chyfansoddi mwy, taith a oedd weithiau yn un hawdd ac yn aml yn un anodd, ond yn un llawn hwyl, emosiwn a phleser.”

Cyfansoddwyd ‘Angharad’, ‘Un Gân Arall’, a ‘Paid Troi Nôl’ gan Dylan ei hun, caneuon yn amrywio o’r llon i’r lleddf ac sy’n arwydd o gam pendant ymlaen yn ei ddatblygiad cerddorol, ac mae ei gân ddidwyll a theimladwy, ‘Er Cof Amdanat Ti’, yn cynnwys lleisiau cefndir Catrin Angharad Jones a chriw Hogia Llanbobman, y geiriau gan Mabel Parry. Cydweithiodd Dylan gyda’i ffrind, Lois Roberts, ar y gân ‘Galwa Arnaf Fi’, cân sy’n dathlu grym cariad a chyfeillgarwch.

Mae cân agoriadol fachog yr albym, ‘Chwilio am y Gân’ yn un o ganeuon Barry ‘Archie’ Jones, ac mae Dylan yn ei chyfri hi’m fraint cael bod wedi cyd-weithio gyda Barry ar yr albym a chanu rhagor o’i ganeuon, megis ‘Roulette’. Gweithiodd gyda Barry ar gân arbennig o waith Alun ‘Sbardun’ Huws, ‘Anthem Roc a Rôl’, ac mae Dylan yn ddyledus iawn i Gwenno am gael cynnwys hon - un o ganeuon coll y dewin o gyfansoddwr caneuon cyfoes ac un na recordiwyd o’r blaen. 

Cyfansoddwyd ‘Gitâr Newydd’ yn arbennig i Dylan gan Ynyr Roberts (Brigyn, Popeth) ac mae ‘Grace’ yn gyfieithiad Cymraeg o’r gân werinol boblogaidd Wyddelig. 

Gyda chyfnod prysur o gigio o’i flaen mae Dylan yn edrych ymlaen at berfformio’r caneuon newydd ar hyd a lled Cymru.

TRACIAU:-

1 Chwilio am y Gân  
2 Angharad   
3 Galwa Arnaf Fi   
4 Paid Troi Nôl   
5 Er Cof Amdanat Ti   
6 Anthem Roc a Rôl  
7 Grace   
8 Ty’d yn ôl i Mreichiau Heno  
9 Gitâr Newydd   
10 Roulette  
11 Y Ddawns   
12 Un Gân Arall   

Gweld y manylion llawn