Cerdd Dannau
Cerdd Dannau
SKU:SCD2702
Gyda: Cerys Matthews, Meinir Gwilym, Maartin Allcock, Stephen Rees, Huw Roberts a Dafydd Roberts.
Dyma albym amrywiol a chyfoes, sy’n treiddio’n ddwfn i ddirgelion y grefft Gymreig hynafol hon gan roi gwedd newydd arni. Mae’n ein cludo ni i gyfnod mawrion byd cerdd dant y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, rhai fel Idris Fychan, J E Jones a Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy a chawn gip ar arddull fwy gwerinol y gorffennol ac ar rai o’r hen fesurau oedd yn boblogaidd iawn ar un cyfnod. Ar y llaw arall, mae yma ddarnau arbrofol sy’n torri tir newydd – darnau sy’n cymryd rhyddid o ran strwythr a ffurf a hefyd ganeuon sy’n seiliedig ar gerdd dant ond sy’n ein cludo ni i dir fymryn yn wahanol. O farddoniaeth gaeth i hen benillion a barddoniaeth rydd, o’r hen alawon telyn traddodiadol i alawon newydd, mae’r albym hwn yn ddathliad o un o’n traddodiadau cerddorol Cymreig mwyaf unigryw. Fel yn hanes sawl Cymro a Chymraes arall, mae cerdd dant wedi bod yn rhan o fywyd Gwenan ers dyddiau plentyndod. Bellach, teimla fod y grefft yn rhan annatod ohoni rywsut, a phe byddai rhyw dro ymhell oddi cartref mewn gwlad bell, o bob dim, sain cerdd dant, yn sicr meddai, fyddai’n codi’r hiraeth mwyaf arni!
Yn ymuno yn y canu ar ddau drac mae Cerys Matthews a Meinir Gwilym, dwy mae Gwenan wedi mwynhau cyd-weithio â nhw dros y flwyddyn ddwythaf. (Mae Gwenan yn ymddangos ar albym newydd Cerys Matthews, ‘Hullabaloo’). Hefyd yn ymddangos ar ‘Cerdd Dannau’ mae’r ffidlwyr Stephen Rees a Huw Roberts, Dafydd Roberts ar y ffliwt a’r aml-offerynnwr Maartin Allcock.
Dyma drydydd albym y gantores a’r delynores o Bwllheli.
- Nei di ganu ‘nghân (‘Maes Ffynnon’)
- Noson aflawen (‘Maentwrog’)
- Pen draw Llŷn ‘(Codiad yr ehedydd’)
- Calon drom (‘Difyrrwch Iorwerth ab Ifan’)
- A glywi di? (‘Joanna’)
- Nid yw cariad yn ddall (‘Wyres Megan’)
- Glan môr heli (‘Pwllheli’)
- Rowndio’r horn (‘Garnedd Einion’)
- Mae’r ddaear yn glasu (‘Breuddwyd Rhysyn badh’)
- Bro (‘Glannau’r Taf’)
- Traeth Lafan/Adlais Nia/Pen Rhaw
- Arglwydd Iesu dysg im gerdded (‘Mwynen Llyfni’)
- Dau a dwy (‘Pant corlan yr wyn’)
- Rhwng Pen y Cei a Phenrallt (‘Yr Afon’)