Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Einir Wyn Jones

Ceinciau Penrhos

Ceinciau Penrhos

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:CS089

Mae’n bleser gan Cyhoeddiadau Sain gyhoeddi’r gyfrol arbennig yma o geinciau gan Einir Wyn Jones. Bu Einir yn rhan annatod o’r byd cerdd dant ers blynyddoedd, a’i gwaith fel cyfeilydd, gosodwraig, beirniad a hyfforddwraig yn wybyddus drwy Gymru gyfan. Yn wreiddiol o ’Stiniog, dechreuodd ei gyrfa fel athrawes yn Swydd Caer cyn dod yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Ardudwy, Harlech ac yn fwy diweddar yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli. Dyma ei chasgliad cyhoeddiedig cyntaf o alawon, y cyfan wedi eu saernïo’n gynnil a’i phrofiad fel telynores, cyfansoddwraig a datgeinydd wedi arwain at alawon crefftus a hynod swynol. Swynol hefyd yw’r teitlau gyda’r mwyafrif yn perthyn i ardal Penrhos ym Mhen Llyˆn, lle mae Einir a’i theulu wedi ymgartrefu ers blynyddoedd lawer bellach.

Yn sicr, dyma gasgliad gwerthfawr o geinciau cerdd dant a fydd yn siŵr o gael croeso twymgalon gan osodwyr, datgeinwyr a chyfeilyddion drwy Gymru ben baladr. 
Gwenan Gibbard

12 o geinciau cerdd dant:

Anelog
Castellmarch 
Tir y Cwmwd
Bro Islyn 
Gwrtheyrn
Penffridd 
Elain 
Porth Meudwy
Cilan
Plas Heli
Glan y Môr
Tyddyn Llewelyn 

Gweld y manylion llawn