Ceinciau Llwyndyrus
Ceinciau Llwyndyrus
SKU:CS031
Pleser yw cael cyflwyno’r llyfr yma o alawon cerdd dant gan Owain Siôn.
Mae Owain yn gyfarwydd i bawb yn y byd cerdd dant fel datgeinydd, gosodwr, hyfforddwr a chyfansoddwr alawon. Yn wreiddiol o Lwyndyrus, gwnaeth ei farc yn ifanc gan ennill llu o wobrau yn Eisteddfodau’r Urdd, y Genedlaethol a’r W ˆ yl Gerdd Dant, fel unawdydd, fel un hanner o nifer o ddeuawdau ac fel aelod o driawd Hogiau Hen Felin, gyda’i frodyr Elis a Iorwerth. Pobl ifanc Caerdydd a’r fro sy’n elwa o’i ddoniau erbyn hyn, gan fod Owain bellach yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd. O dan ei arweinyddiaeth fe ddaw partion cerdd dant yr ysgol a chôr cerdd dant Merched y Ddinas i’r brig yn aml iawn yng nghystadleuthau cerdd dant ein gwyliau cenedlaethol.
Dyma gasgliad amrywiol o alawon, y rhan fwyaf ohonynt yn ymddangos mewn print am y tro cyntaf, a phob un yn meddu rhyw naws arbennig. Mae nifer o alawon Owain eisoes yn rhan o repertoire y ceinciau cerdd dant a hyderaf y bydd rhain hefyd yn cael defnydd helaeth. Bydd croeso mawr i’r gyfrol hon yn sicr, a braf fydd cael clywed yr alawon ar lwyfannau o bob math drwy Gymru ben baladr.
Gwenan Gibbard
17 o geinciau cerdd dant:
Ael y Bryn
Plas Isaf
Ella
Llangarnguwch
Cae Steel
Fflur
Ysgubor Fawr
Glannau’r Taf
Fy llong fach arian i
Hiraeth
Llwyndyrus
Meddiant Uchaf
’Rodyn
Angorfa
Trefynach
Thema Schindler’s List
Treganna