Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Cefn Gwlad

Cefn Gwlad - Y Berwyn

Cefn Gwlad - Y Berwyn

Pris rheolaidd £4.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £4.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

Dai Jones Llanilar sy'n ymweld ag ardal Y Berwyn yn ystod y pedwar tymor, ac yn cael cipolwg ar fywyd a gwaith y cymeriadau sy'n byw yn yr ardal arbennig hon o Gymru.

DVD 1 - GAEAF Mae'n dymor y gaeaf yn Y Berwyn - ac mae'r ffermwyr yn brysur yn porthi eu hanifeiliaid. Yn ogystal ag ymweld â'r ffermwyr, bydd Dai Jones yn cael sgwrs gyda chiper o Lanarmon - sydd wedi bod yn cadw record o'r tywydd lleol ers blynyddoedd.

DVD 1 - GWANWYN mae'n wanwyn yn Y Berwyn - ac mae pawb yng nghanol y tymor wyna. Bydd Dai yn cyfarfod â chymeriadau arbennig sydd yn un o drigolion hynaf Llanarmon, ac mae hi wedi croniclo hanes y fro a'i gyhoeddi'n gyfrol. Awn i lawr i Dyffryn Ceiriog a chyfarfod teulu sydd wedi bod yn giperiaid ar Stad Nantyr ers sawl cenhedlaeth a chawn dreulio ychydig o amser ymhlith y ffesantod a'r hwyaid. *

DVD 2 - HAF Mae'n had ar Y Berwyn - ac mae'r cynhaeaf gwair a silwair yn ei anterth a phawb yn brysur yn casglu'r cnwd cyn i'r tywydd droi. Bydd Dai Jones yn dychwelyd i lethrau ardal y Rhiwlas a fferm Nantganol, a chaiff hefyd ymuno yn yr hwyl wrth wylio'r cneifio ar fynydd Swch, ym mhen uchaf Dyffryn Ceiriog. Yr ochr arall i'r mynydd yn ardal Llangynog, mae criw o gymdogion yn dod ynghyd i gynnal yr hen draddodiad o gneifio.

DVD 2 - HYDREF Mae'n Hydref yn Y Berwyn ac mae'r ffermwyr a'u teuluoedd wrthi'n hel y defaid o'r mynyddoedd. Mae'r prysurdeb o ddewis i'w gwerthu yn hollbwysig yr adeg yma, a bydd Dai Jones yn ymweld â Jac Jones ac Armon Morris i drafod y gwaith hwnnw.

Hyd - tua 200 munud.

Iaith - Cymraeg.

Lliw - Lliw Llawn.

Tystysgrif – E

Gweld y manylion llawn