Cariad y Tir
Cariad y Tir
SKU:SCD2844
Dyma gasgliad o ganeuon gwerin ac emynau Cymreig sydd wedi bod yn agos at fy nghalon ar wahanol adegau o fy mywyd ac sydd wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi wrth dyfu lan yng Nghymru. Maen nhw’n ganeuon sydd wedi fy helpu i weld pa mor brydferth yw’r tir a’r bywyd, yr harddwch, y natur, yr iaith, y gymuned a’r gerddoriaeth sy’n ffynnu arno ac hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor arbennig yw’r cariad sy’n cael ei ddangos at y tir a’r cariad y gall y tir ei ei roi yn ôl i ni. ’Dwi wedi recordio’r caneuon dros gyfnod a’r trefniannau yn amrywio o rai gyda Sain mwy traddodiadol, fel ’dwi’n cofio o fy nyddiau ysgol neu’r Eisteddfod, i rai gyda naws mwy amgen.
Fel person ifanc a oedd yn aml yn teimlo’n wahanol i eraill o fy nghwmpas, oherwydd lliw fy nghroen a fy nghefndir Seisnig a Bajan, roedd recordio’r caneuon yma yn bwysig, gan eu bod yn fy atgoffa, er fy mod wedi cael fy ngeni yn Lloegr, fy mod i wedi cael fy magu yng Nghymru ac wastad wedi cael fy amgylchynu â’r diwylliant Cymreig. Roeddwn yn ddisgybl mewn ysgolion Cymraeg gan ddysgu, siarad a chanu yn Gymraeg. Treuliais flynyddoedd fy mhlentyndod a fy ieuenctid cynnar yn byw mewn tair ardal wahanol a hynod o brydferth o Gymru ac erbyn hyn rydw i’n cyfansoddi fy nghaneuon yn y Gymraeg ac yn gwneud fy mywoliaeth yn bennaf drwy’r Gymraeg. Felly rydw i wedi uniaethu â Chymru ac wedi teimlo fel Cymraes ar hyd y blynyddoedd ac mae recordio’r caneuon ar yr albym yma yn ffordd i mi gael rhoi rhywbeth yn ôl a dangos fy ngwerthfawrogiad i’r tir a’r wlad sydd wedi rhoi cymaint i mi.”
1) Dafydd y Garreg Wen
2) Cân Merthyr
3) Ar lan y môr
4) Si hei lwli
5) Pais Dinogad
6) Sosban fach
7) O Flodyn Bach Hardd
8) Gwahoddiad
9) Cariad Cywir
10) Hen Wlad Fy Nhadau
11) Calon Lân