Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Sain

Caneuon yr 80au - 'Dal i Freuddwydio'

Caneuon yr 80au - 'Dal i Freuddwydio'

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2845

“Yr 80au: Cyfnod lansio MTV a Live Aid. Roedd artistiaid Pop yn cynnwys Madonna, Duran Duran, Cindy Lauper, Prince, Alison Moyet a The Smiths a gwalltiau mawr a lliwiau llachar mewn ffasiwn. Daeth y fideo yn holl bwysig, roedd Top of the Pops yn raglen allweddol a chaneuon Pop disglair a sgleiniog yn teyrnasu ar y radio. Cafwyd ymateb Cymraeg i Band Aid gyda’r record ‘Dwylo Dros y Môr’, record sydd efallai, yn fwy na’r un arall, yn crisialu naws yr 80au yn gerddorol. Ond, mae sain neu sŵn yr 80au ar nifer o recordiau catalog Sain gydag ambell drac gan Maffia Mr Huws yn dangos dylanwad Funk yr 80au a’r cyfuniad o Funk a Soul yn amlwg yn nhraciau Llwybr Cyhoeddus, Geraint Griffiths, Bando a Ray Jones. Mae popeth am y traciau yn gweiddi 80au! Ac nid peth drwg yw hynny.

Hefyd cawn artistiaid bytholwyrdd fel Geraint Jarman yn datblygu ac yn esblygu drwy’r 80au a chlywir sain cynhyrchu’r 80au ar recordiau hir fel Macsen (1983) ac Enka (1985). Wrth bori drwy gatalog Sain mae’n amlwg bod cerddoriaeth Roc yn parhau yn boblogaidd dros y ddegawd ac mae cyfoeth o draciau o’r trwm i’r ‘Prog’ i’r amrwd wrth wrando ar recordiau hir Crys, Rhiannon Tomos ac Omega neu grwpiau oedd yn rhyddhau senglau fel Trydan, Diawled a Jaffync. A beth yn union oedd dylanwad y New Wave ar gerddoriaeth o Gymru? Oes modd dadlau bod rhyw flas bach o’r ‘Don Newydd’ ar y sengl ‘Merch â Llygaid Oer’ gan Rocyn neu ‘Noson Arall i’r Brenin’ gan Urien? Oes ots? Cân dda ydi cân dda! Ond … mae dylanwad y cyfnod ar y recordiau heb os. Efallai bod Punk wedi hen chwythu ei blwc erbyn 1980 ond mae grwpiau fel Trwynau Coch, Ail Symudiad a Clustiau Cŵn wedi cael eu dylanwadu ganddo, yn sicr. Ar ddiwedd y ddegawd mae grwpiau fel Y Cyrff yn cynnig cipolwg o’r dyfodol. O fewn ychydig flynyddoedd bydd Mark a Paul o’r grŵp yn chwarae rhan flaenllaw yn y bennod nesa’ gyda Catatonia a llwyddiant rhynglwadol artistiaid o Gymru. Yr 80au osododd y sylfaen ar gyfer y bennod nesa’ hon.

Mwynhewch sain yr 80au. Gadewch i’r gerddoriaeth fynd â chi yn ôl i gyfnod ac i lefydd penodol, i ddigwyddiadau o bwys ac i gyfnod arloesol yn hanes diwylliant Cymraeg.”

Rhys Mwyn

1. Dal i freuddwydio 2 - BRODYR
2. Mil o fastiau - ROHAN
3. Arwyr - NEWYDDION
4. Rhedeg rhag y torpidos - TRWYNAU COCH
5. Cysgod lleidr - FICAR
6. Ad-Drefnu - AIL SYMUDIAD
7. I uffern ac yn ôl - MARACA
8. Y cyfrifoldeb - Y CYRFF
9. Merch a llygaid oer - JIM O’ROURKE
10. Fideo - PRYD MA TE
11. Yn yr oriel - LLWYBR CYHOEDDUS
12. Juline - GERAINT GRIFFITHS
13. Gwawr tequila - BANDO
14. Cerona - ENDAF EMLYN
15. Dwi angen y gwir - DYLAN DAVIES
16. Gormod i'w golli - RHIANNON TOMOS
17. Pethau yn mynd yn galed - RAY JONES
18. Byd o boen - MASNACH RYDD
19. Dawnsio tan y bore - GARI PRYSOR
20. Carnifal - COCH GLAS A CHWYTHU MAS

21.Byw yn y radio - CLUSTIAU CWN
22. Mods a rocers - TRYDAN
23. Noson y blaidd - DIAWLED
24. Nos Sadwrn - CRYS
25. Tân yn y llyn - JAFFYNC
26. Sianel 3 - LOUIS THOMAS
27. Nos Sadwrn - ANGYLION STANLI
28. Yr ateb - OMEGA
29. Noson arall i'r brenin - URIEN
30. Cerdded rownd y dre - DEREC OWEN
31. Cocaine - STEVE EAVES
32. Perygl yn y fro - MEIC STEVENS
33. Heno heno - ERYR WEN
34. Paratoi y ffordd i seion - GERAINT JARMAN
35. Rhywle heno - MAFFIA MR HUWS
36. Port gwir - EDWARD H.DAFIS
37. Meibion y fflam - SOBIN A'R SMEILIAID
38. Dwylo dros y môr - DWYLO DROS Y MÔR

Gweld y manylion llawn