Caneuon Robat Arwyn - Ffydd Gobaith Cariad
Caneuon Robat Arwyn - Ffydd Gobaith Cariad
SKU:SCD2728
Casgliad cyntaf caneuon Robat Arwyn oedd un o recordiadau mwyaf llwyddiannus y degawd diwethaf, a bu galw mawr am ail gasgliad. Ond oedd yna ddigon o ganeuon i wneud un arall? Mae’r ateb i’w glywed yma – oedd, digon a mwy! Yn wir, o gywain drwy recordiau diweddar, testun syndod yw mor
eang yw apêl a phoblogrwydd cyfansoddiadau’r cyfansoddwr o Ruthun a fagwyd yn Nyffryn Nantlle. Ac o wrando ar y casgliad newydd rhyfeddol hwn, daw dau reswm dros boblogrwydd caneuon Robat Arwyn i’r amlwg. Y rheswm cyntaf yw fod ei ganeuon yn apelio at unawdwyr, at ddeuawdau, at bartïon o bob math, ac at gorau mawr a bach, yn ogystal ag at offerynwyr, ac ar y casgliad hwn cawn glywed rhai o berfformwyr amlycaf Cymru, o Bryn Terfel a Chôr Seiriol i’r triawd yr oedd Arwyn ei hun yn aelod ohono, Trisgell. A’r ail reswm yw ei fod yn cyd-gyfansoddi gyda rhai o awduron geiriau gorau ein cyfnod; mae’r bartneriaeth gynhyrchiol rhwng Arwyn a Robin Llwyd ab Owain yn amlwg eto yn y casgliad hwn, ac hefyd y bartneriaethrhyngddo â’r bartneriaeth arall honno a fu’n ysbrydoliaeth i sioeau Theatr Maldwyn a Meirion, Penri Roberts a’r diweddar Derec Williams. Yma hefyd fe glywn eiriau gan awduron sydd eisoes wedi amlygu eu hunain fel awduron nifer o’n clasuron poblogaidd diweddar: Eifion Lloyd Jones, Eleri Richards ac Enid Jones, heb anghofio’r cyfansoddwr ei hun, a bardd o safon John Morris-Jones. Alawon cofiadwy, perfformwyr disglair, ac hefyd un o’r elfennau prin hynny sy’n nodweddu gwaith pob gwir artist, sef didwylledd. Mwynhewch wledd arall o waith Robat Arwyn.
Dafydd Iwan, Ebrill 2015.
- Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn - AELWYD BRO GWERFYL
- Paid - Trisgell
- Dim Ond Meirch y Môr - NIA CLWYD/BOIS Y CASTELL
- Seren y Gogledd - BRYN TERFEL
- Braint - HAF WYN/CÔR SEIRIOL
- Ffydd Gobaith Cariad - CÔR AELWYD LLANGWM
- Un Enaid Bach - PIANTEL
- Y Freuddwyd Fawr - HUW LLYWELYN/CÔR RHUTHUN
- Hen Gymraes - LEAH OWEN
- Dallt y Gêm - GERAINT ROBERTS/CWMNI THEATR MEIRION
- Mae'r Gân yn Ein Huno - RHYS MEIRION & FFLUR WYN
- Er Mwyn Yfory - ARFON WILLIAMS & SIWAN LLYNOR/CWMNI THEATR MEIRION
- Wrth Aros am Fy Haul - LLION WYN/CÔR PENYBERTH
- Derwen dy Gariad - ROSALIND A MYRDDIN
- Adre Nôl - CÔR TEULU CAERONWY
- Gwell Byd a Ddaw - TRISGELL
- 'Run Fath â Ni - CWMNI THEATR MEIRION
- Gyda Thi - MARI WYN WILLIAMS & HUW LLYWELYN
- Gogoniant a Nerth - JOHN IFOR JONES/CÔR RHUTHUN