Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

Caneuon Robat Arwyn

Caneuon Robat Arwyn

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2669

Mae cyfraniad Dyffryn Nantlle i fyd y gân yng Nghymru yn aruthrol; pe na baem yn mynd ymhellach i’r gorffennol na’r Brodyr Francis, gellir yn hawdd enwi rhes ddi-ddor o gantorion a chorau sydd wedi’n diddanu gyda’u doniau, a hynny mewn sawl maes cerddorol. Ac nid sôn yr ydym yn unig nac yn bennaf am ddiwylliant cartrefol a gwerinol y filltir sgwâr, ond sôn am ddoniau sydd wedi goleuo ffurfafen y byd cerddorol rhyngwladol. A’r un yw’r llinyn aur sy’n rhedeg drwy’r ddau – y lleol a’r byd-eang.
Yn sefyll allan fel cyfansoddwr yn y cwmni godidog hwn mae Robat Arwyn, y gŵr dirodres a diymhongar o Dal-y-sarn a gyfansoddodd ganeuon sydd bellach yn rhan annatod o raglen unawdwyr, partïon a chorau ledled Cymru a thu hwnt. Anaml iawn y cynhelir cyngerdd o unrhyw fath bellach heb o leiaf un o ganeuon Robat Arwyn, ac y mae’r un peth yn wir am raglenni radio a theledu.
Daeth i’r amlwg gyntaf fel aelod o’r triawd Trisgell, fel canwr ac fel cyfansoddwr, ac yno y gosodwyd y sylfeini ar gyfer gyrfa’r cerddor sydd wedi ei diwnio i glust y werin. Dro ar ôl tro, llwyddodd i greu caneuon sy’n mynnu cydio yn y dychymyg a glynu yn y cof, ac yn hyn o beth cafodd gymorth nifer o feirdd sy’n medru llunio geiriau arbennig iawn i gyd-fynd â‘i gerddoriaeth. Yn wir, mae’r bartneriaeth rhyngddo â Robin Llwyd ab Owain yn sicr o fod yn un o bartneriaethau mawr byd y gân yng Nghymru, ond gwelir yn y casgliad hwn fel y mae nifer o feirdd, yn ogystal â Robat Arwyn ei hun, wedi priodi’r gair gyda’r gerddoriaeth yn llwyddiannus.
Braint yw cael cyflwyno’r casgliad hwn gan rai o artistiaid gorau Cymru, yn unigolion a chorau o bob math a maint, sy’n talu teyrnged drwy eu canu i’r cyfansoddwr, cyfeilydd, trefnydd ac arweinydd Robat Arwyn.

  1. Brenin y Sêr (BRYN TERFEL & CÔR RHUTHUN)
  2. Yfory (EIRLYS PARRY)
  3. Pedair Oed (RHYS MEIRION & CÔR RHUTHUN)
  4. Dy Garu o Bell (GERALLT JONES, CWMNI THEATR MEIRION)
  5. Fel Un (TRISGELL)
  6. Dagrau’r Glaw (RHIAN MAIR LEWIS)
  7. Dal Fi (CÔR RHUTHUN)
  8. Sêr y Nadolig (FFLUR WYN)
  9. Ymlaen a’r Gân (CÔR IAU GLANAETHWY)
  10. Benedictus (BRYN TERFEL & RHYS MEIRION)
  11. Llanelidan (TRISGELL)
  12. Cerdded Hyd y Llethrau (LLEISIAU MIGNEDD)
  13. Hei Ti’n Cwl (GUTO, LLYR AC OSIAN)
  14. Daeth yr Awr (CWMNI THEATR MEIRION)
  15. Ave Maria (Maddau i Mi) (3 TENOR CYMRU)
  16. Gwin Beaujolais (TRISGELL)
  17. Sychwn Ddagrau (CÔR AELWYD LLANGWM)
  18. Sefwch yn Llonydd (CWMNI THEATR MEIRION)
  19. Anfonaf Angel (ALED MYRDDIN, CÔR GORE GLAS & CÔR AELWYD BRO DDYFI)
Year
Gweld y manylion llawn