Caneuon Protest
Caneuon Protest
SKU:SCD2701
Mewn unrhyw gymdeithas wâr, mae lle i brotest ac i ymgyrchu, ac i gicio yn erbyn y tresi. Arwydd o iechyd unrhyw ddiwylliant yw bod y caneuon a genir hefyd yn mynegi’r brotest honno o bryd i’w gilydd.
Cyhoeddir y casgliad hwn o 30 ganeuon protest Cymraeg i gyd-fynd â’r gyfres o raglenni ar thema protest a ddangoswyd gan S4C yn ystod mis Ebrill 2013.
Mae caneuon wedi cael eu defnyddio i fynegi teimladau cryfion ers canrifoedd, ac y mae sawl enghraifft o “ganu protest” yn ein traddodiad o ganu baledi yng Nghymru. Sefydlwyd label Sain yn ystod un o gyfnodau mwyaf cythryblus yr ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg, a hawliau Cymru fel cenedl, a naturiol felly oedd i hynny gael ei amlygu mewn nifer o’r caneuon a recordiwyd. Parhaodd y thema o ganu “protest”, ac o fynegi dyheadau a theimladau cryf, hyd heddiw, er ei bod yn amrywio mewn natur o gyfnod i gyfnod.
Dengys y casgliad hwn nid yn unig fel y mae pwnc y brotest yn amrywio, ond hefyd fel yr ehangodd y cynfas fel petai, gan ddwyn i mewn gyfeiriadau at sefyllfa De Affrig, a phobol dduon Gogledd America. Ond prif bwnc y brotest gan amla, beth bynnag fo arddull y miwsig, yw brwydr yr iaith, hawliau’r gweithiwr a’r frwydr dros diriogaeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun boddi Tryweryn.
Darlledodd S4C wythnos o raglenni ar thema protest ddechrau Ebrill, felly penderfynwyd ryddhau casgliad o ganeuon i gyd-fynd â’r rhaglenni hynny gan Sain. Caneuon sy’n dangos emosiynau cadarn yr artistiaid a’u teimladau cryfion tuag at pa bynnag brotest y cenir amdani. Clywn ganeuon gan Geraint Jarman, Dafydd Iwan, Anhrefn, Meic Stevens a llawer mwy.
CD1:
- Cymru, Lloegr A Lanrwst (CYRFF)
- Ciosg Talysarn (DAFYDD IWAN & AR LOG)
- Rhaid Yw Eu Tynnu i Lawr (CHWYLDRo)
- NCB (LLYGOD FFYRNIG)
- Adferwch Y Cymoedd (DELWYN SION)
- Ty Haf (EDWARD H. DAFIS)
- Cenhadon Casineb (GERAINT JARMAN)
- Nid Eu Hanes Nhw Yw Fy Stori i (GERAINT LOVGREEN)
- Dewch I’r Llysoedd (HERGEST)
- Etifeddiaeth Ar Werth (HUW CHISWELL)
- Dan Ni’m Yn Rhan (MAFFIA MR. HUWS)
- Tryweryn (MEIC STEVENS)
- Llwch Y Glo (MYNEDIAD AM DDIM)
- Tân Yn Llyn (PLETHYN)
- Ta-Ta Botha (SOBIN A’R SMAELIAID)
CD2: - Affrikaaners Y Gymru Newydd (STEVE EAVES)
- Birmingham (TEBOT PIWS)
- Niggers Cymraeg (TRWYNAU COCH)
- Arwyr Estron (ENDAF EMLYN)
- Gwrthod Bod Yn Blant Bach Da (TECWYN IFAN)
- Peintio’r Byd Yn Wyrdd (DAFYDD IWAN)
- Hunaniaeth (ANWELEDIG)
- Nid Cymru Fydd Cymru (HEN WLAD FY MAMAU)
- Sut Fedrwch Chi Anghofio (HEN WLAD FY MAMAU)
- Pam Fod Eira’n Wyn? (MIM TWM LLAI)
- Cymro? (NAR)
- Madame Guillotine (SIBRYDION)
- I Gael Cymru’n Gymru Rydd (IRIS WILLIAMS)